Jonathan Lee Haynes
Mae milwr dreisiodd merch 18 oed mewn neuadd breswyl ym Mhrifysgol Morgannwg bron i ddwy flynedd yn ôl wedi ei garcharu am gyfnod amhenodol heddiw.

Roedd Jonathan Haynes, 30, wedi treisio tair merch ac wedi ceisio herwgipio dwy ferch ysgol.

Bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 11 mlynedd yn y carchar – ond rhybuddiodd y barnwr ei fod yn bosib na fyddai byth yn cael ei ryddhau.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd yr Ustus Neil Ford QC, Cofiadur Bryste, fod Jonathan Haynes yn “ysglyfaethwr clyfar a chyfrwys”.

Cafwyd ef yn euog fis diwethaf o chwe chyfrif o dreisio, dau o herwgipio a dau o geisio herwgipio yn dilyn achos llys tair wythnos o hyd yn Llys y Goron Bryste.

Treisiodd un ferch ar gampws Trefforest Prifysgol Morgannwg ar 25 Medi 2009.

Pythefnos ynghynt roedd wedi ymosod ar ferch 16 oed oedd wedi gadael clwb nos yn Chippenham, Wiltshire,

Ym mis Chwefror 2010, ceisiodd herwgipio dwy ferch o ffordd wledig ger yr un dref.

Wythnosau yn ddiweddarach herwgipiodd a threisiodd merch 17 oed yn Chippenham.

‘Dim trugaredd’

“Rydych chi wedi treisio tair merch ifanc ac ym mhob achos roedd yr ymosodiadau yn rhai parhaus,” meddai’r Ustus Neil Ford.

“Fe wnaethoch chi’ch gorau i geisio cuddio’r dystiolaeth a gwneud niwed mawr i’ch dioddefwyr,

“Dydych chi ddim wedi dangos unrhyw drugaredd ac yn parhau i wadu eich bod chi’n gyfrifol am yr ymosodiadau.”