Mae’r sylw diweddar i’r gwelliant mewn ansawdd dŵr rhai o afonydd Cymru yn ddim mwy na “sbin” sy’n taflu llwch i lygaid y cyhoedd, yn ôl pennaeth corff sy’n ymgyrchu dros warchod pysgod a bywyd gwyllt.

Dywed Mark Lloyd o’r Angling Trust bod ei “waed yn berwi” yn dilyn datganiadau’r wasg yr wythnos diwethaf gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Yn ôl y datganiadau, mae’r Afonydd Taf a Dyfrdwy ar frig rhestr o’r 10 uchaf o afonydd sydd wedi gwella fwya’ yng Nghymru a Lloegr.

Er nad oes neb yn gwadu bod yr afonydd hyn bellach yn hafan i fywyd gwyllt unwaith eto yn dilyn degawdau o lygredd diwydiannol, dyw’r 10 afon a ddewiswyd ddim yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa, yn ôl Mark Lloyd.

“Mae cymaint o waith i’w wneud eto ac os yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i roi datganiadau fel hyn allan mae pobol – a gwleidyddion, yn mynd i feddwl bod popeth yn iawn, job done!

“Mae’r Asiantaeth yn bod yn amddiffynnol yn hytrach nag esbonio maint y broblem. Y ffaith amdani mae gynnon ni broblemau difrifol yn ein hafonydd.”

Yn ôl Mark Lloyd, mae’r problemau’n cynnwys budreddi a llygredd o ffatrïoedd a ffermydd. Mae’n cyhuddo’r Asiantaeth yng Nghymru “o fod yn rhy gyndyn i ddwyn achosion o orfodaeth galed yn erbyn cwmnïau.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 8 Medi