Ieuan Wyn Jones
Bydd Ieuan Wyn Jones yn traddodi ei araith olaf yn arweinydd Plaid Cymru dros y penwythnos.

Bydd cynhadledd tridiau Plaid Cymru yn Venue Cymru, Llandudno yn canolbwyntio ar adnewyddu economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, medden nhw.

Ond er mai ail-adeiladu economi Cymru yw canolbwynt y digwyddiad, bydd meddyliau aelodau’r Blaid yn anorfod hefyd yn troi at ddyfodol y blaid, meddai Llyr Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru.

Cyhoeddodd yr arweinydd presennol, Ieuan Wyn Jones, y bydd yn trosglwyddo’r awenau yng nghynhadledd y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Mae dau ymgeisydd, Elin Jones, AC Ceredigion, a Dafydd Elis-Thomas, AC Dwyfor Meirionnydd, eisoes wedi dweud y byddwn nhw’n sefyll.

“Gwn y bydd ein haelodau yn gwrando ar araith olaf Ieuan Wyn Jones fel arweinydd y Blaid gyda balchder, gan adlewyrchu ar y gwaith rhyfeddol a wnaeth dros yr 11 mlynedd ddiwethaf, dros ei blaid a’i genedl.,” meddai.

“Mae llwyddiannau Ieuan fel Dirprwy brif Weinidog a Gweinidog yr Economi yn siarad drostynt eu hunain.

“Mae pawb yn gwybod, heb Blaid Cymru fel rhan o lywodraeth ddiwethaf Cymru, na fuasai gan Gymru ei senedd ddeddfwriaethol ei hun, na fuasai cyllid teg i Gymru hyd yn oed ar radar the Llywodraeth San Steffan ac na fuasai miloedd o weithwyr oedd yn wynebu colli eu swyddi wedi cael eu helpu gan y cynlluniau React a Proact.

“Wrth gwrs, gan mai hon fydd araith olaf Ieuan fel arweinydd y Blaid, bydd meddyliau’r aelodau hefyd yn troi at ddyfodol y blaid a’r broses gyffrous o adeiladu ac adnewyddu sy’n digwydd i ni ar hyn o bryd.

“Yr ydym ar bwynt pwysig a chyffrous yn hanes ein cenedl. Mae Cymru yn awr yn genedl fwy hyderus. Mae gan ein Cynulliad fwy o bwerau oherwydd penderfyniad Plaid Cymru dros flynyddoedd lawer, ond rhaid i Gymru barhau i symud ymlaen ac y mae’n haelodau yn ymwybodol iawn o’r ffaith fod angen Plaid Cymru ar ei newydd wedd i wneud i hyn ddigwydd.”

‘Adeiladu’ at y dyfodol

YchwanegoddLlyr Huws Gruffydd eu bod nhw  eisiau gweld gweithredu gan lywodraeth Cymru “i helpu’n cymunedau ail-godi, ac y mae angen i lywodraeth Cymru weithredu i greu swyddi yn awr”.

“Wedi chwe mis yn unig o’r llywodraeth Lafur yn y Cynulliad, mae pobl Cymru yn teimlo’n siomedig iawn â’u methiant i weithredu,” meddai.

“Yn hytrach nac amddiffyn neu warchod cymunedau Cymru rhag dyrnodiau cyson sy’n disgyn ar Gymru o du’r ConDemiaid, mae Gweinidogion Llafur wedi eistedd ar eu dwylo a gwneud dim.

“Gallai cynnig arloesol ‘AdeiladuiGymru’ Plaid Cymru greu hyd at 50,000 o swyddi newydd wrth fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf megis ysgolion ac ysbytai newydd, a seilwaith. Yn y cyfamser, mae Llafur, yn  y misoedd ers dod i lywodraeth, heb gyflwyno unrhyw gynlluniau arwyddocaol ar gyfer y ffordd ymlaen i economi Cymru na gweithwyr Cymru.”