David Cameron
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan ddatgelu heddiw eu bod nhw’n bwriadu penodi comisiwn a fydd yn ystyried ‘Cwestiwn Gorllewin Lothian’.

Bydd y comisiwn yn ystyried a ddylai ASau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu gwahardd rhag pleidleisio ar ddeddfau sy’n effeithio ar Loegr yn unig.

Mae ‘Cwestiwn Gorllewin Lothian’ – sydd wedi ei enwi ar ôl etholaeth yr AS, Tam Dalyell, gyfeiriodd at y broblem yn 1977 – wedi bod yn destun pryder i Aelodau Seneddol ers i Gymru a’r Alban ddewis datganoli yn 1997.

Ar hyn o bryd dyw ASau Lloegr ddim yn cael pleidleisio ar faterion sydd wedi eu datganoli i Gymru a’r Alban, ond mae ASau’r gwledydd rheini yn gallu pleidleisio ar faterion sydd yn effeithio ar Loegr yn unig.

Cadarnhaodd Stryd Downing y byddwn nhw’n cyhoeddi datganiadau gweinidogol ysgrifenedig yn Nhŷ’r Cyffredin, heddiw.

“Fe fydd y datganiad yn ymwneud â sefydlu comisiwn, ac yn gwireddu un o addewidion y glymblaid yn San Steffan,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet.

Roedd ymdrech i ddatrys y mater yn rhan o’r cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol pan ffurfiwyd y glymblaid y llynedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ym mis Mawrth y dylid sefydlu comisiwn er mwyn penderfynu a ddylai ASau gael eu hatal rhag pleidleisio ar faterion nad oedd yn effeithio ar eu hetholwyr nhw.