Dan Carter (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yfory, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Seland Newydd yw’r ffefrynnau eto eleni, ond a fydd yr holl bwysau o chwarae adref yn mynd yn drech na nhw?

Roedd gan y Crysau Duon le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011.

Bu 2010 yn un lwyddiannus iawn i’r tîm. Enillodd Gystadleuaeth y Tair Gwlad heb golli’r un gêm, ac yn yr hydref cyflawnodd y gamp lawn yn erbyn timau gwledydd Prydain am y pedwerydd tro yn ei hanes.

Collodd Bencampwriaeth y Tair Gwlad eleni ar ôl cael eu maeddu oddi cartref gan Dde Affrica ac Awstralia. Ond roedden nhw wedi gorffwys chwaraewyr bryd hynny, ac fe fyddwn nhw’n gobeithio y bydd y fantais o chwarae adref yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth dros y ddeufis nesaf…

Safle tebygol: Ennill

Y Record

Er gwaethaf holl lwyddiant y Crysau Duon dros y blynyddoedd, record siomedig sydd ganddyn nhw yng Nghwpan y Byd.

A hwythau fel arfer yn ffefrynnau i ennill y Cwpan, dim ond un waith y gwnaethon nhw hynny, sef yn y gystadleuaeth gyntaf yn 1987.

Yn 1995 collodd Seland Newydd yn y ffeinal yn erbyn De Affrica ac yn 2007 cafodd ei maeddu gan Ffrainc yn rownd yr wyth olaf.

Yn y tair cystadleuaeth arall colli yn y rownd gynderfynol oedd ei hanes.

Chwaraewr i’w wylio

Dan Carter

Y maswr gorau yn y byd, yn ôl y farn gyffredin. Mae’n rhedwr twyllodrus ac yn giciwr ardderchog. Mae’n frodor o Christchurch, er bod ei dad-cu’n dod o Tonga, ac mae’n chwarae i dimau Canterbury a’r Crusaders.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Crysau Duon yn 2003 yn erbyn Cymru, gan sgorio 20 pwynt.

Ar hyn o bryd mae’n frwydr rhyngddo ef a Jonny Wilkinson i fod yn brif sgoriwr pwyntiau’r byd.

Yn 2005 cafodd ei ddyfarnu’n Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn gan yr IRB.

Yr Hyfforddwr

Graham Henry

Bu’n hyfforddi Cymru am bedair blynedd rhwng 1998 a 2002. Wedi llwyddiant arbennig i ddechrau, pan gafodd Cymru 11 buddugoliaeth yn olynol, ymddiswyddodd ar ôl rhediad o ganlyniadau siomedig.

Daeth yn hyfforddwr ar y Crysau Duon yn 2003 a chafodd ei ddewis yn Hyfforddwr Gorau’r Flwyddyn gan yr IRB yn 2005 a 2006.

Ers ei benodiad estynnwyd ei gytundeb ddwy waith gan Undeb Rygbi Seland Newydd.

A wyddoch chi?

Cyn i ymfudwyr o Ewrop gyrraedd Seland Newydd dros ddwy ganrif yn ôl byddai’r Maoriaid yn chwarae gêm o’r enw ki-o-rahi oedd yn debyg i rygbi a phêl-droed rheolau Awstralia.

Mae’r haka a berfformir gan dîm y Crysau Duon cyn pob gêm yn seiliedig ar un o ddawnsfeydd rhyfel traddodiadol y Maoriaid. Ond eto cynhelir fersiynau llai ffyrnig o’r haka i groesawu gwesteion nodedig i’r wlad, neu i gydnabod achlysuron arbennig.