Catrin Elin Roberts a Rhian Jones
Bydd dwy wraig yn ymgeisio ar ran Llais Gwynedd mewn is-etholiadau ym ym Mhenrhyndeudraeth a Blaenau Ffestiniog ddiwedd y mis.

Mae sedd ward Penrhyndeudraeth yn wag ers ymddiswyddiad Dewi E Lewis, cynghorydd Plaid Cymru a garcharwyd am 16 mis ddiwedd fis diwethaf am ddwyn arian o Swyddfa Bost.

Bydd is-etholiad hefyd yn ward Ward Diffwys a Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog, fydd yn newid dwylo am y trydydd tro mewn tair blynedd.

Penderfynodd Richard Lloyd Jones ymddiswyddo ar ol cipio’r seddo bedair pleidlais yn unig ym mis Gorffennaf y llynedd.

Cynhalwyd yr etholiad yn 2010 oherwydd ymddiswyddiad Gwilym Euros Roberts, a garcharwyd am bedair mlynedd a hanner am anafu ei wraig â’r bwriad o achosi niwed corfforol.

Bydd y ddau ie-stholiad yn cael eu cynnal ar ddydd Iau, 29 Medi.

Dywedodd Llais Gwynedd mai Rhian Jones fydd yn sefyll ym Mhenrhyndeudraeth,.

Bydd Catrin Elin Roberts, un o sylfaenwyr yr asiantaeth fenter leol, Antur Stiniog, yn sefyll yn Diffwys a Manofferen.

“Mae hi’n fraint eithriadol cael ymgeiswyr mor dalentog yn y ddwy ward bwysig yma,” meddai Cadeirydd Llais Gwynedd, y Cynghorydd Owain Williams.

“Mae’r ddwy ar dân dros roi anghenion eu cymunedau flaenaf.”

‘Edrych ymlaen’

Dywedodd Catrin Elin Roberts, sy’n 41 mlwydd oed, ei bod hi’n “edrych ymlaen yn arw i gynrychioli Blaenau Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd”.

“Rwy’n gwybod fod gan y dref gymaint i’w gynnig mewn cymaint o wahanol faesydd er mwyn sicrhau dyfodol fyniannus i’w phobl a’u treftadaeth unigryw,” meddai.

Dywedodd Rhian Jones, a aned yn Llanfrothen ac sy’n byw ym Minffordd erbyn hyn, ei bod hi’n “credu mewn gwrando ar y bobl ac mewn gweithredu er mwyn gwireddu eu gobeithion a’u dyheuadau”.

“Byddaf yn troi pob carreg i ateb pob gorchwyl roddir i mi gan bobl Croesor, Llanfrothen, Minffordd, Penrhyndeudraeth a Rhyd os câf fy ethol i’w cynrychioli ar Gyngor Gwynedd.”