Mae S4C wedi dweud wrth Golwg 360 eu bod nhw’n bwriadu cyfweld yr ymgeiswyr ar gyfer swydd Prif Weithredwr newydd y sianel ddydd Gwener nesaf.

Aelodau o Awdurdod S4C fydd yn cynrychioli’r panel cyfweld yn y cyfweliadau ar 16 Medi, meddai llefarydd ar ran y sianel.

Mae Awdurdod S4C wedi bod yn cyd-weithio â chwmni recriwtio Odgers Berndtson, a fu’n cydlynu’r broses ymgeisio, er mwyn didoli’r ymgeiswyr.

Mae dyfalu brwd wedi bod ynglŷn â phwy sy’n debygol o fod ar y rhestr fer am y swydd – gydag enwau gan gynnwys Wyn Innes, Angharad Mair, Aled Eurig, Rhodri Williams, Iestyn Garlick, a’r Prif Weithredwr dros-dro, Arwel Ellis Owen, wedi eu crybwyll.

Mae bellach yn flwyddyn ers i’r prif weithredwr parhaol diwethaf, Iona Jones, adael ei swydd. Mae Arwel Ellis Owen wedi cymryd ei lle ers dros i flwyddyn bellach.

Cafodd Huw Jones ei benodi yn Gadeirydd Awdurdod S4C ar ôl ymddiswyddiad y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, ym mis Rhagfyr.