Mae’r heddlu yn holi dynes 26 oed ar amheuaeth o lofruddio ar ôl dod o hyd i gorff dyn mewn tŷ yn ne Cymru.
Mae Heddlu Gwent hefyd wedi galw am wybodaeth wrth ddod o hyd i ddyn a char y maen nhw’n meddwl sydd â chysylltiad â’r llofruddiaeth.
Dywedodd swyddogion fod gan Barry Bowyer, 37, “wybodaeth hanfodol” ynglŷn â marwolaeth y dioddefwr.
Daethpwyd o hyd i’w gorff mewn tŷ ar Stryd Harold, Pontynewydd, Cwmbrân brynhawn ddoe.
Maen nhw hefyd yn gobeithio dyn o hyd i gar Ford Mondeo gwyn, sydd â’r rhif cofrestru R717 VOA.
“Derbyniodd swyddogion yr heddlu alwad am tua 3.35pm ddydd Mawrth, 6 Medi, gan rywun sy’n byw yn lleol oedd yn pryderu am les dyn.
“Daethpwyd o hyd i’r dyn hwnnw yn ddiweddarach mewn tŷ ar Stryd Harold ar ôl i swyddogion yr heddlu orfodi eu ffordd i mewn.
“Mae dynes 26 oed o Gwmbrân sydd wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn y ddalfa ar hyn o bryd.”
Mae disgwyl i enw’r dyn gael ei ryddhau yn hwyrach ymlaen heddiw, ar ôl i’r heddlu roi gwybod i’w deulu.
Does dim cadarnhad eto ynglŷn â sut y bu farw a bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal cyn bo hir.
Barry Bowyer
Dywedodd yr heddlu fod Barry Bowyer, sydd o Gwmbrân, yn denau, tua 5 troedfedd 11 modfedd, a bod ganddo wallt brown byr.
Mae ganddo sawl tatŵ gan gynnwys aderyn, y llythrennau EVS, pum dot a llun o raeadr ar ei fraich chwith.
Ar ei fraich dde mae’r geiriau Linda a Brandon a’r llythrennau DP, a’r gair ‘smile’ ar ei goes chwith, meddai’r heddlu.
Ni ddylai aelodau o’r cyhoedd nesáu ato, ond fe ddylen nhw alw’r heddlu.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.