Stadiwm Wembley
Mae heddlu Llundain yn ymchwilio i lofruddiaeth, ar ôl i gefnogwr o Gymru farw yn dilyn ymosodiad y tu allan i stadiwm Wembley.

Cafodd chwe dyn eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad ddigwyddodd 25 munud cyn dechrau gêm Cymru yn erbyn Lloegr, meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw ar ddeall mai chwech o gefnogwyr Cymru oedd wedi eu harestio.

Daethpwyd o hyd i’r dioddefwr, oedd yn 44 oed, y tu allan i’r stadiwm yng ngogledd Llundain tua 7.20am neithiwr. Roedd wedi dioddef anafiadau i’w ben.

Dywedodd parafeddygon fod y dyn, Mikey Dye oedd yn gefnogwr i glwb Pêl-droed Caerdydd, hefyd wedi dioddef o drawiad i’r galon wrth iddo deithio i ysbyty yng ngogledd Llundain.

“Cafodd yr heddlu eu galw tua 7.20pm, ddydd Mawrth, 6 Medi, i ardal y tu allan i Stadiwm Wembley, yn dilyn adroddiad am ymosodiad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met.

“Aethpwyd a dyn, yr ydyn ni’n credu oedd yn ei 40au, i ysbyty yng ngoledd Llundain yn dioddef o anafiadau i’w ben. Fe fu farw am 8.50pm.”

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaetha Ambiwlans Llundain fod parafeddygon oedd yn bresennol ar gyfer y gêm wedi gallu dechrau trin y dyn o fewn tri munud.

Aethpwyd a’r dyn i’r ysbyty mewn ambiwlans oedd yn eiddo i gwmni meddygol preifat sy’n cael ei gyflogi gan Wembley.

Cydymdeimladau

Cadarnhaodd swyddogion o glwb Dinas Caerdydd neithiwr fod un o’u cefnogwyr wedi marw y tu allan i Wembley.

“Yn hwyr nos Fawrth fe glywon ni’n newyddion trasig fod cefnogwr Cymru a Chlwb Pêl-droed Caerdydd wedi marw yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr,” medden nhw.

“Allan o barch tuag at deulu’r cefnogwr, sensitifrwydd y sefyllfa, a nes bod yr amgylchiadau llawn wedi dod i’r amlwg, ni fyddwn ni’n cynnig unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”

Y gred yw bod Mikey Dye yn aelod o fforwm drafod Clwb Dinas Caerdydd ac yn gadael sylwadau dan yr enw Ely Trendy.

Neithiwr gadawodd cymedrolwr y wefan, Carl Curtis, neges yno yn dweud: “Y newyddion trist heno yw bod Mikey Dye (Ely Trendy) wedi marw yn dilyn digwyddiad y tu allan i lidiart oddi cartref Wembley”.

“Rydw i’n annog pawb i atal rhag cyhoeddi’r sïon a straeon sydd ar y we allan o barch tuag at deulu Mikey, a chyhoeddi eich cydymdeimladau yn unig fan hyn.

“Mae’r clwb wedi rhoi gwybod y bydd Mikey yn cael ei gofio yn ystod y gêm yn erbyn Doncaster ddydd Sadwrn.”

Dywedodd Joe Ledley, a chwaraeodd yn y gêm yn Wembley, ei fod wedi ei ddychryn gan y farwolaeth.

“Alla’i ddim credu fod cefnogwr Cymru wedi marw heno,” meddai. “Rwy’n meddwl am ei deulu.”

Dywedodd Menish Huseyin, 29, oedd yn gweithio ar stondin nwyddau y tu allan i’r stadiwm, fod beth ddigwyddodd wedi ei “ddychryn”.

“Mae’n rhan fwyaf o gemau yn mynd rhagddynt heb unrhyw ffws,” meddai.

“Mae’n dorcalonnus fod rhywun wedi dod i wylio gêm bêl-droed ac wedi ei ladd. Mae’n llwfr iawn.”