Stadiwm Wembley
Mae llond bysys o gefnogwyr Cymru ar eu ffordd i Wembley i weld y tîm yn herio Lloegr. Dyma sylwadau un ohonyn nhw – Rhys Davies, o Gwmbach, yn Sir Gaerfyrddin…

Golwg: Beth fydd yn digwydd heno?

Rhys: Rwy’n teimlo bod cynnwrf a hyder yn y garfan ar ôl y perfformiad nos Wener, a gall fod yn gêm gystadleuol iawn, ac o ran sgôr yn agos tu hwnt!  Ar y llaw arall, mae’n rhaid ystyried fod un neu ddau o’r enwau mawr Cymru ddim yn chwarae heno.  Ond ar y cyfan rwy’n edrych ymlaen at y perfformiad a gweld Cymru yn herio Lloegr yn Wembley.

Golwg: Beth fydd y sgôr?

Rhys: Mae’n dibynnu a fydd Lloegr yn sgorio yn gyntaf ac yn sgorio fwy nag un gôl cyn yr hanner gyntaf.  Rwy’n ofni y byddai pethau’n ddu arnom ni yn yr ail hanner pe baen ni’n gadael y goliau i mewn yn gynnar, a hyder Lloegr yn codi ar gyfer yr ail hanner.  Ond wedi dweud hynny, pe bai Cymru yn cadw Lloegr draw, ac yn ei gadw’n gêm gyfartal â 20 munud i fynd, rwy’n sicr y gall Cymru sicrhau gêm gyfartal.

Oes oedd rhaid dyfalu sgôr, byddwn i’n tybio – Lloegr   2  –  0   Cymru

Golwg: Fydd Craig Bellamy a David Vaughn ddim yn chwarae heno. Yw hynny’n esgus os nad ydyn ni’n gwneud yn dda?

Rhys: Rydyn ni’n colli chwaraewyr allweddol sydd yn gallu newid gêm, does dim amheuaeth am hynny.  Ond mae llawer o chwaraewyr gennym ni sydd yn cystadlu ar y lefel uchaf yn wythnosol yn yr Uwch Gynghrair. Bydd James Collins yn dychwelyd, a hynny’n cryfhau ein hamddiffyn.

Golwg: Roedd Garry Speed wedi cyfaddef bod tîm Lloegr ar y blaen i Gymru, a bod gwaith gyda Chymru i gyrraedd yr un safon.  Ydy hynny yn dy boeni?

Rhys: Nac ydi, rwy’n ffyddiog.  Mae wedi bod yn chwaraewr ei hun, ac yn un o oreuon Cymru.  Felly mae’n gwybod beth sydd angen ei wneud i ddatblygu’r tîm ac i gyrraedd y lefel nesaf.  Teimlaf fod y gêm nos wener yn drobwynt, a gallwn ddatblygu o’r fath yna o chwarae.  Mae’n ddyddiau cynnar eto, ond rydyn ni wedi gweld ambell fflach gan Gymru.  Carfan eithaf ifanc sydd gennym ac mae’n braf eu gweld yn cystadlu yn erbyn y goreuon.

Golwg: Dywedodd Gareth Bale ac Ashley Williams bod siawns gennym i gipio’r fuddugoliaeth.  Ond i’r gwrthwyneb, dywedodd Robbie Savage bod gêm gyfartal allan o afael Cymru yn erbyn Lloegr.  Beth yw dy deimladau am hynny?

Rhys: Gall unrhyw beth ddigwydd – gêm yw hi.  Mae gan Loegr lawer o brofiad ac mae eu chwaraewyr yn dechrau’n gyson i’r timoedd mawr. Rhaid cofio bod Garry Speed yn ceisio adeiladu a datblygu carfan ar gyfer Cwpan y Byd, hefyd. Felly mae’n bwysig edrych ymlaen at y dyfodol, ac rwy’n meddwl bod yna ddyfodol gwych i Gymru yn y dyfodol agos.