Gareth Bale
Mae Fabio Capello wedi dweud fod ganddo gynllun arbennig er mwyn ceisio atal Gareth Bale yn Wembley heno.

Dyw Lloegr heb ennill yr un o’u pedair gêm ddiweddaraf yn Wembley a bydd Cymry yn gobeithio y bydd y record honno’n parhau.

Ni fydd y canlyniad yn effaith cymaint o hynny ar obeithion Lloegr o gyrraedd y bencampwriaeth yng Ngwlad Pwyl a Wcráin, ond yn golygu popeth i Gymru sydd am adeiladu ar eu buddugoliaeth yn erbyn Montonegro ddydd Gwener.

Os ydyn nhw am atal tîm Gary Speed rhag sicrhau buddugoliaeth annisgwyl mae angen rheoli Gareth Bale, meddai Fabio Capello.

’’Mae Bale yn chwaraewr pwysig iawn i Gymru’’, meddai Capello.

’’Roeddwn yn bresennol yng ngêm Tottenham yn erbyn dinas Manceinion, a doedd dim byd arbennig amdano.

’’Ond roedd wedi gwella yn sylweddol erbyn y gêm yn erbyn Montonegro ddydd Gwener.

“Roedd yn gyflym tu hwnt ac yn symud o hyd. Pan mae’n derbyn y bêl ac yn ymosod mae’n wirioneddol wych.  Mae’n anodd iawn i’w rwystro’’.

Dywedodd Capello fod ganddo well berthynas â’i dim erbyn hyn a bod hynny’n golygu fod ganddo’r gallu i gael y gorau allan ohonyn nhw.

’’Maen nhw’n fy neall i’n well. Maen nhw’n deall nad ydw i’n ddyn anfodlon drwy’r amser,” meddai.

“Rydw i’n canolbwyntio drwy gydol y cyfnodau hyfforddi. Rydyn ni’n gweithio’n galed am awr neu weithiau am awr a hanner.  Ar ôl hynny rydw i’n ymlacio a gall y chwaraewyr wneud fel y maen nhw ei eisiau.”