Aaron Ramsey
Mae capten Cymru, Aaron Ramsey wedi dweud ei fod yn awyddus i chwarae mewn tîm Prydeinig yn y gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Roedd chwaraewr Arsenal yn siarad â’r wasg cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr heno pan y gwnaeth y sylwadau fydd yn siŵr o ddigio swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ynghyd â Chymdeithas Bêl-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi gwrthwynebu’r syniad o ddewis chwaraewyr o bob gwlad i gynrychioli Prydain yn nhwrnament pêl-droed y gemau Olympaidd.

Aros i weld

Er hynny, maent hefyd wedi cydnabod nad oes modd iddyn nhw atal chwaraewyr unigol sy’n awyddus i chwarae yn y tîm – gyda Ramsey a Gareth Bale o Spurs yn ddau ffefryn i gael eu henwi.

“Petawn i’n cael y cyfle, mae’n un y byddwn yn hoffi ei gymryd” meddai Ramsey.

“Dwi wedi clywed bod Gareth yn teimlo’r un fath ynglŷn â hynny. Bydd rhaid i mi aros i weld.”

Mae disgwyl i’r Sais, Stuart Pearce, gael ei enwi’n reolwr ar y tîm arfaethedig yn swyddogol ar ddiwedd y mis.

Gan nad oes modd i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol y Pencampwriaethau Ewropeaidd yr haf nesaf, mae bron yn sicr y bydd Ramsey a Bale yn cael eu henwi yn y tîm Prydeinig fydd yn cystadlu ym mis Gorffennaf.