Mae’r BBC wedi dweud nad ydyn nhw’n fodlon ymateb i sylwadau un o’u cyflwynwyr, Jeremy Clarkson, am yr iaith Gymraeg ym mhapur The Sun.

Ddoe dywedodd yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards, wrth Golwg360 fod y sylwadau yn “codi cwestiynau difrifol iawn am y BBC”.

Ond dywedodd y BBC wrth Golwg 360 nad oedden nhw’n fodlon cynnig sylw ar arlwy Jeremy Clarkson, cyflwynydd un o’u rhaglenni mwyaf poblogaidd, Top Gear, yn y papur newydd.

“Ni fydd y BBC yn rhoi sylw ar sylwadau a wnaed gan Jeremy yn The Sun,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360.

Galwodd Jeremy Clarkson am ddiddymu’r iaith Gymraeg mewn darn barn ym mhapur newydd The Sun.

Ar ôl ymosod ar Ffrangeg yn ei golofn wythnosol, mae cyflwynydd rhaglen Top Gear y BBC yn galw am gael gwared ar y Gymraeg.

“Dw i’n credu y dylai’r Cenhedloedd Unedig ddechrau ystyried o ddifrif diddymu ieithoedd eraill,” meddai

“Beth yw pwynt y Gymraeg, er enghraifft? Dim ond esgus i Gymry penboeth gael ymddwyn mewn modd cenedlaetholgar yw hi.”

‘Byw’r ochor anghywir’

Dywedodd Jonathan Edwards wrth Golwg360  fod  ei sylwadau yn “cadarnhau mai ymosodiadau ar y Cymry a’r iaith Gymraeg yw’r fath ddiwethaf o hiliaeth sydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol”.

Ychwanegodd yr AS, sy’n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod ei sylwadau yn “codi cwestiynau difrifol iawn am y BBC”.

“A ddylai sefydliad sydd i fod i adlewyrchu’r pedwar gwlad ynysoedd Prydain ganiatáu’r fath sylwadau anoddefgar gan un o’r rhai sydd yn derbyn cyflog uchel iawn o fewn y sianel?” gofynnodd.

Ond, fe ddywedodd Simon Hart, AS Gorllewin Caerfyrddin a  De Sir Benfro, wrth Golwg360 mai “anwybyddu” Clarkson oedd y peth gorau i’w wneud.

“Rydan ni i gyd yn gwybod mai ceisio ennyn ymateb mae Clarkson,” meddai Simon Hart.

“’Dw i’n meddwl y dylen ni ei anwybyddu a hyd yn oed deimlo’n flin drosto.

“Mae’n amlwg yn chwerw am ei fod yn byw’r ochr anghywir i Font Hafren”.

‘Synnu’

“Mae’n ein synnu ni nad yw’r BBC yn cymryd y mater o ddifrif gan ystyried eu bod nhw’n ceisio cymryd drosodd ein hunig sianel deledu Cymraeg [S4C],” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.

“Yn y cyd-destun hynny, byddai rhywun yn meddwl y bydden nhw’n trin y Gymraeg gyda’r parch maen ei haeddu.”