Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, wedi beirniadu cynllun i gau dau o labordai milfeddygol Defra yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Dywedodd y gwleidydd sy’n ymgeisydd i gymryd yr awenau yn arweinydd Plaid Cymru, fod rhagor o swyddi yn y fantol yn dilyn y cyhoeddiad.

Datgelodd undeb Prospect ddoe fod yr Asiantaeth Labordai Iechyd Anifeiliaid a Milfeddygol wedi gwneud cais i gau labordai yn Aberystwyth a Sir Gar erbyn mis Ebrill 2013.

Ysgrifennydd Amgylcheddol lywodraeth San Steffan, Caroline Spelman, fydd â’r penderfyniad terfynol.

Defra yw adran amgylchedd a chefn gwlad Llywodraeth San Steffan.

“Rydw i wedi drwgdybio eu bod nhw yn bwriadu cau’r labordy yn Aberystwyth ers amser hir ond maen nhw wedi gwrthsefyll hyd yn hyn,” meddai.

“Fe fyddai colli swyddi gwyddonol da yn ergyd mawr i Geredigion.

“Yn Aberystwyth mae yna arbenigedd mewn swyddi sy’n ymwneud ag amaeth a chefn gwlad, gan gynnwys y Brifysgol ac IBERS.

“Fy mhryder i yw y bydd hynny’n cael ei erydu â chau’r labordy milfeddygol.

“Fe fyddai cau’r labordai yn Aberystwyth a Chaerfyrddin yn golygu nad oes unrhyw gyfleusterau o’r fath unrhyw le yng Nghymru.

“Mae yna lawer iawn o dda byw yng Nghymru ac mae gwaith Defra yn hollbwysig er mwyn cael gwared ar afiechydon anifeiliaid yma.”