Streic Athrawon
Bydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn ymuno â hyd at 25,000 o athrawon a darlithwyr yn Senedd San Steffan fis nesaf er mwyn protestio yn erbyn toriadau ym mhensiynau’r sector addysg.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb y bydd y weithred ar ddydd Mercher, 26 Hydref, “na welwyd ei thebyg erioed o’r blaen”, yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng saith o’r prif undebau addysg.

Ychwanegodd mai’r nod fydd  tynnu sylw at y mythau ynghylch y ddadl ar bensiynau, ac at ddifrifoldeb y toriadau arfaethedig.

Cynhelir y lobi yn ystod y gwyliau hanner tymor rhag amharu ar addysg plant, ac i arbed achosi anawsterau i rieni.

Ond nid yw’r saith undeb wedi diystyru’r posibilrwydd o drefnu rhagor o weithredu diwydiannol “os bydd y llywodraeth yn parhau i erydu pensiynau”.

Maent yn anelu at gael cynrychiolydd yn bresennol yn y digwyddiad o bob ysgol, academi, prifysgol a choleg  yng Nghymru a Lloegr (sef cyfanswm o ryw 25,000).

Trefnir yr ymgyrch ar y cyd rhwng undebau Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL), Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL), Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT), NASUWT, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT), Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC).

‘Ysbeilio’ pensiynau

Yr wythnos hon, anfonir gwybodaeth i ysgolion, colegau a phrifysgolion ôl-92, ynghyd â deisebau i’w harwyddo gan aelodau o’r staff ar ran eu hysgol neu goleg.

Cesglir pob un o’r 25,000 deiseb, a’u cyflwyno i Aelodau Seneddol yn ystod y lobi ar 26 Hydref. Os cesglir llofnodau’r rhan fwyaf o’r staff mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, hon fydd y ddeiseb draddodiadol fwyaf erioed i’w chyflwyno gan rai sy’n gweithio mewn sefydliadau addysgol.

“Mae’r ffaith fod miloedd o athrawon a darlithwyr o bob cwr o Brydain yn fodlon rhoi diwrnod o’u gwyliau hanner tymor i deithio i Lundain i lobïo Aelodau Seneddol yn dangos pa mor gryf yw eu teimladau,” meddai llefarydd ar ran y trefnwyr.

“Mae’r proffesiwn yn gwbl gytûn yn eu condemniad o’r ffordd warthus y caiff pensiynau eu hysbeilio er mwyn talu’r ddyled wladol.

“Mae gan y cyhoedd hawl i wybod y gallai toriadau effeithio yn y pen draw ar ansawdd addysg pobl ifanc, wrth i raddedigion o’r radd flaenaf ailfeddwl ynghylch eu dewis o yrfa. Byddwn hefyd yn herio’r chwedloniaeth a ledaenir ynghylch y ffordd y mae pensiynau’r sector cyhoeddus yn effeithio ar drethdalwyr.

“Nid ar chwarae bach y bydd athrawon a darlithwyr yn penderfynu streicio, a dyna pam y trefnwyd y lobi yn ystod y gwyliau hanner tymor, er mwyn sicrhau na fydd yn effeithio ar ddisgyblion na rhieni. Fodd bynnag, os bydd y llywodraeth San Steffan yn parhau i erydu pensiynau – sydd, fel y gwyddant, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy – ni fydd gan athrawon unrhyw ddewis ond gweithredu ymhellach, gan gynnwys trefnu streiciau.
“Rydym yn annog y llywodraeth yn gryf i wrando ar neges y lobi hon. Ni all athrawon sefyll o’r neilltu a gwylio wrth i’w pensiynau gael eu herydu am resymau cyfan gwbl wleidyddol. Byddai modd sicrhau na threfnir rhagor o weithredu, ond er mwyn i hynny ddigwydd rhaid i’r Llywodraeth fod yn fodlon cyd-drafod yn deg.”