Ci o'r brîd ymosododd ar Erfan
Ymosododd ci ar fachgen chwech oed o Gaerdydd ar ôl neidio ffens pedwar troedfedd i mewn i’w ardd gefn.

Bu’n rhaid i Erfan Ali gael llawdriniaeth pum awr o hyd i’w wyneb dros y penwythnos ar ôl yr ymosodiad brynhawn ddydd Gwener.

Mae meddygon wedi dweud wrth ei rieni y bydd ganddo greithiau ar ei wyneb drwy ei oes, ar ôl i’r ci rwygo ei fochau yn ddarnau.

Dioddefodd Erfan anafiadau i’w fraich dde a’i law yn ystod yr ymosodiad, ac roedd yn lwcus i gael dianc yn fyw.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ei ardd gefn yng Ngabalfa wrth iddo helpu ei fam, Monowara Ali, i fynd a’r golch i mewn.

Dihangodd hi i’r tŷ â’i mab ond methodd ag atal y ci rhag gorfodi ei ffordd i mewn i’r gegin a pharhau â’r ymosodiad.

Mae’r ci o’r enw Tyson, oedd yn perthyn i frid y Rhodesian Ridgeback sy’n dod o Dde Affrica, wedi ei roi i gysgu.

Aethpwyd a Erfan i Ysbyty Athrofaol Caerdydd cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Er gwaethaf y llawdriniaeth brys i’w wyneb bydd rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth arall, er mwyn ychwanegu croen newydd at ei wyneb, wrth iddo dyfu i fyny.

Dywedodd tad Erfan, Dalwar Ali, ei fod wedi cyrraedd yn ôl ddydd Gwener a gweld gwaed ymhobman.

“Mae’r ymgynghorydd yn yr ysbyty wedi dweud y bydd gan Erfan greithiau am byth,” meddai.

“Mae pawb yn y gymuned yn nabod Erfan ac mae’n gefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.”

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.