Jeremy Clarkson
Mae Aelod Seneddol wedi beirniadu un o gyflwynwyr y BBC, Jeremy Clarkson, wedi iddo sarhau’r iaith Gymraeg mewn colofn papur newydd.

Galwodd Jeremy Clarkson am ddiddymu’r iaith Gymraeg mewn darn barn ym mhapur newydd y Sun ddydd Sadwrn.

Ar ôl ymosod ar Ffrangeg yn ei golofn wythnosol, mae cyflwynydd rhaglen Top Gear y BBC yn galw am gael gwared ar y Gymraeg.

“Dw i’n credu y dylai’r Cenhedloedd Unedig ddechrau ystyried o ddifrif diddymu ieithoedd eraill,” meddai.

“Beth yw pwynt y Gymraeg, er enghraifft? Dim ond esgus i Gymry penboeth gael ymddwyn mewn modd cenedlaetholgar yw hi,” meddai.

Yn ôl yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards, mae ei sylwadau yn “cadarnhau mai ymosodiadau ar y Cymry a’r iaith Gymraeg yw’r fath ddiwethaf o hiliaeth sydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol.”

Ychwanegodd yr AS, sy’n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod ei sylwadau hefyd yn “codi cwestiynau difrifol iawn am y BBC”.

“A ddylai sefydliad sydd i fod i adlewyrchu’r pedwar gwlad ynysoedd Prydain ganiatáu’r fath sylwadau anoddefgar gan un o’r rhai sydd yn derbyn cyflog uchel iawn o fewn y sianel?” gofynnodd.

Dyma’r ail dro i Jonathan Edwards ymyrryd yn dilyn sylwadau negyddol am yr iaith Gymraeg, wedi iddo ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, er mwyn cwyno am adolygiad llyfr yn y Daily Mail.

Yn ei adolygiad o’r llyfr Bred of Heaven yn y Daily Mail canol mis Awst, roedd Roger Lewis yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg fel “iaith mwnci”.

Roedd hefyd yn dweud fod Gorsedd y Beirdd “yn ymdebygu i’r Klu Klux Klan mewn wellingtons gwyn”.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, na ddylai’r adolygiad fod wedi ei gyhoeddi, a’i fod yn ymdebygu i iaith “ffasgwyr”.

Mae Golwg 360 yn disgwyl am ymateb gan y BBC.

Malan Vaughan Wilkinson