Mae’r heddlu wedi rhybuddio ffermwyr Môn ar ôl i 65 o ddefaid gael eu dwyn o fferm ar yr ynys.

Cafodd y defaid oedd wedi eu tagio eu dwyn o fferm ym Methel, Bodorgan, rhwng 4 Gorffennaf a 18 Awst.

“Mae’n rhaid bod gan y troseddwyr drelar arbennig er mwyn gallu mynd a’r defaid oddi yno,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio PC Beth Bennett ar 101, 0845 6071001, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.