Sergio Parisse (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Fel yr Alban yng ngrŵp B, a Samoa yng ngrŵp D, mae gan yr Eidal siawns wirioneddol o gyrraedd rownd yr wyth olaf. Ond mae’n rhaid iddyn nhw faeddu Iwerddon yn gyntaf…

Bu’r Eidal yn cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y dechrau. Cafodd ei gobeithion o wneud yn dda yng Nghwpan y Byd 2011 hwb enfawr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni pan enillodd hi yn erbyn Ffrainc.

Dyna un o’r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn hanes y gystadleuaeth honno. Daeth o fewn trwch blewyn i faeddu Iwerddon hefyd.

Cyn hynny, yn ystod hydref 2010, collodd yn erbyn yr Ariannin ac Awstralia. Eto gwnaeth yn dda i gael buddugoliaeth yn erbyn Ffiji, oedd yn uwch na hi ar restr goreuon yr IRB.

Safle tebygol: Ennill dwy gêm yn y grŵp

Y Record

Ni lwyddodd yr Eidal i fynd ymhellach na’r rowndiau rhagbrofol. Yn 2003 cafodd ddwy fuddugoliaeth, yn erbyn Tonga a Chanada. Yn 2007 enillodd ddwy gêm eto, y tro hwn yn erbyn Rwmania a Phortiwgal, gan ddod o fewn tri phwynt i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Dim ond unwaith, yn 1999, y methodd yr Eidal gael buddugoliaeth o gwbl yng Nghwpan y Byd. Bryd hynny, collodd 101-3 yn erbyn y Crysau Duon yn un o’r gêmau rhagbrofol.

Chwaraewr i’w wylio

Sergio Parisse

Cafodd yr wythwr hwn, sy’n chwarae i glwb Stade Français, ei fagu ar aelwyd Eidalaidd yn yr Ariannin, tra oedd ei dad yn gweithio yno.

Dychwelodd i’r Eidal i chwarae i Treviso yn 2001 a chael ei ddewis i gynrychioli’i wlad yn erbyn y Crysau Duon y flwyddyn wedyn ac yntau ond yn 18 oed.

Bu’n aelod cyson o dîm yr Eidal ers hynny a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd yn 2003 a 2007.

Yn 2008 cafodd ei ddewis ar restr fer gwobr Chwaraewr Gorau’r IRB y flwyddyn honno.

Yr Hyfforddwr

Nick Mallett

Chwaraeodd Nick Mallett ddwy waith i Dde Affrica yn 1984 ac yntau’n aelod o glwb Western Province.

Treuliodd saith mlynedd fel chwaraewr a hyfforddwr yn Ffrainc cyn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm De Affrica yn 1996 ac yna’n brif hyfforddwr y flwyddyn wedyn, gan gael tipyn o lwyddiant.

Ymddiswyddodd yn 2000 wedi ymrafael mewnol ymhlith awdurdodau rygbi’r wlad. Yna cafodd gyfnod llewyrchus iawn fel hyfforddwr clwb Stade Français, cyn dod yn hyfforddwr tîm yr Eidal yn 2007.

A Wyddoch chi?

Yn nyddiau’r Ymerodraeth Rufeinig yn yr Eidal byddai’r brodorion yn arfer chwarae gêm gorfforol iawn o’r enw harpastum.

Yn ôl y disgrifiad a gafwyd gan haneswyr o’r cyfnod doedd y gêm honno ddim yn annhebyg i rygbi.