Jeremy Clarkson
Mae Jeremy Clarkson wedi ymosod ar Gymru a’r Gymraeg unwaith eto, gan alw am ddiddymu’r iaith mewn darn barn ym mhapur newydd y Sun.

Ar ôl ymosod ar Ffrangeg yn ei golofn wythnosol, mae cyflwynydd rhageln Top Gear y BBC yn galw am gael gwared ar y Gymraeg.

“Dw i’n credu y dylai’r Cenhedloedd Unedig ddechrau ystyried o ddifrif diddymu ieithoedd eraill,” meddai.

“Beth yw pwynt y Gymraeg, er enghraifft? Dim ond esgus i Gymry penboeth gael ymddwyn mewn modd cenedlaetholgar yw hi.”

Dywedodd Dr Robyn Lewis, cyn-Archdderwydd Cymru, mai “esgus i gael sylw i Jeremy Clarkson” yw’r cwbl.

“Rydw i’n casáu pobol fel Jeremy Clarkson. Rydyn ni wedi arfer ag ymosodiadau ar y Gymraeg, a dyw Jeremy Clarkson heb ddweud unrhyw beth newydd.”

Daw sylwadau Jeremy Clarkson wedi i Aelod Seneddol ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, er mwyn cwyno am adolygiad llyfr yn y Daily Mail sy’n ymosod ar yr iaith Gymraeg.

Yn ei adolygiad o’r llyfr Bred of Heaven yn y Daily Mail canol mis Awst, roedd Roger Lewis yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg fel “iaith mwnci”.

Roedd hefyd yn dweud fod Gorsedd y Beirdd “yn ymdebygu i’r Klu Klux Klan mewn wellingtons gwyn”.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, na ddylai’r adolygiad fod wedi ei gyhoeddi, a’i fod yn ymdebygu i iaith “ffasgwyr”.