Cafodd pedair merch ifanc oedd wedi eu dal gan y llanw eu hachub gan wylwyr y glannau dros nos.
Galwyd Bad Achub Porthcawl nos Wener i glogwyni ger Southerndown ym Mro Morgannwg ar ôl un o’r merched alw am gymorth ar ei ffon symudol.
Galwyd y bad achub tua 9pm a dywedodd gwylwyr y glannau eu bod nhw wedi dod o hyd i’r merched yn syth ac wedi mynd â nhw i’r lan.
“Cydweithiodd y criw yn dda o dan amgylchiadau anodd, gan achub y merched o droed y clogwyn. Roedd hi’n dywyll fel bol buwch a’r cerrynt yn gryf,” meddai Simon Emms o’r bad achub.
“Mae’r llanw ar hyn o bryd ymysg y cryfaf yden ni wedi ei weld drwy gydol y flwyddyn.
“Roedd yn hawdd iawn i’r merched yma gael eu dal. Death y llanw i mewn yn gyflym iawn a’u caethiwo nhw.”
Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau nad dyna’r tro cyntaf iddyn nhw gael eu galw i achub pobol o’r clogwyni rheini.
“Mae’n bwysig fod pobol yn cadw draw o waelod clogwyni pan mae’r llanw yn bygwth,” meddai llefarydd.
“Roedd y merched yn lwcus iawn fod ganddyn nhw ffonau symudol, a bod signal yno.”