Byddai cau’r unig ddwy ganolfan filfeddygol sydd gan lywodraeth Prydain ar ôl yng Nghymru’n amharu’n ddifrifol ar y gwaith o ddarganfod afiechydon anifeiliaid.

Dyna yw rhybudd Undeb Amaethwyr Cymru yn sgil ofnau y bydd Defra, yr Adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, yn leihau’r nifer o ganolfannau milfeddygol trwy Brydain.

“Os bydd y canolfannau yn Aberyswyth a Chaerfyrddin yn cau, fe fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru anfon samplau i gael eu dadansoddi i’r ganolfan agosaf dros y ffin,” meddai is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Walters.

“Mae’r labordai hyn yn cynnig gwasanaeth hanfodol o safbwynt profi a monitro afiechydon anifeiliaid ac maen nhw ar flaen y gad yn y frwydr i fynd i’r afael â phroblemau iechyd anifeiliaid.”

Mae Brian Walters, sy’n rhedeg fferm laeth y tu allan i Gaerfyrddin, wedi ysgrifennu at Caroline Spielman, ysgrifennydd amgylchedd llywodraeth Prydain, ac at Alun Davies, gweinidog amaeth Cymru i dynnu sylw at bryderon yr undeb.

Arbedion

Roedd yr undeb yn ymateb i adroddiadau bod dyfodol wyth canolfan filfeddygol trwy Brydain yn y fantol mewn cynllun i arbed £2.4 miliwn a gafodd ei cyflwyno gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHLVA) i’r ysgrifennydd amgylchedd yr wythnos yma.

Dywed Brian Walters mai ffolineb fyddai ceisio arbed arian yn y ffordd yma.

“Dyw’r arbedion o £2.4 miliwn yn ddim ond diferyn yn y môr o gymharu â’r gost i’r wlad o achos difrifol o afiechyd anifeiliaid,” meddai.

“Mae angen meddwl hefyd am yr arbedion y gellir eu gwneud o ganlyniad i’r gwaith ymchwil pwysig sy’n cael ei wneud yn y canolfannau hyn.”