Matthew Rhys
Matthew Rhys sy’ wedi ei ddewis i actio John Jasper mewn addasiad teledu o The Mystery Of Edwin Drood.

Bydd y BBC yn dramateiddio llyfr anorffenedig Charles Dickens am lofruddiaeth, na chafodd ei gwblhau oherwydd i’r awdur enwog farw o strôc yn 1870.

Arweinydd côr sy’n casau ei nai Edwin Drood yw’r cymeriad John Jasper.

Bydd y ddrama deledu I’w gweld y flwyddyn nesaf ar BBC2.