Roderigo Roncero (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Dyma ganllaw i‘r tîm a synnodd pawb drwy ddod yn 3ydd yn 2007, sef yr Ariannin.  A fyddwn nhw’n gwneud yr un peth eto eleni?

Mae gan yr Ariannin le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011. Ar ôl ennill pob un o’i gêmau Grŵp yn 2007 cyrhaeddodd y rownd gynderfynol, pan gollodd yn erbyn De Affrica, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Ym mis Mawrth 2008 roedd hi’n drydedd ar restr goreuon yr IRB, ei safle uchaf erioed. Erbyn hyn mae hi wedi disgyn i’r nawfed safle.

Safle tebygol: Rownd yr wyth olaf

Record

Er i’r Ariannin ers dechrau cyfnod Cwpan y Byd fod yn un o wledydd cryfaf y byd rygbi, ni chafodd fawr o lwyddiant yn y gystadleuaeth honno ac eithrio yng nghystadleuaeth 2007.

Gorffennodd ar waelod ei grŵp yn 1987, 1991 ac 1995, gan ennill un gêm yn unig, yn erbyn yr Eidal.

Yn 1999 collodd yn rownd y chwarteri yn erbyn Ffrainc a chafodd ei bwrw allan wedi’r gêmau grw^ p yn 2003.

Chwaraewr i’w wylio

Roderigo Roncero

Prop 34 oed a fu’n chwarae i Stade Français ers 2004 ac a fu’n aelod o dîm Caerloyw rhwng 2002 a 2004. Enillodd ei gap cyntaf i’r Ariannin yn 1998 a chymerodd ran yng Nghwpan y Byd 2003 a 2007.

Yn 2010 cafodd ei ddewis gan Stephen Jones, prif ohebydd rygbi’r Sunday Times, yn nawfed chwaraewr gorau’r byd. Mae’n feddyg wrth ei alwedigaeth.

Yr Hyfforddwr

Santiago Phelan

Cyn-flaenasgellwr a enillodd 44 cap dros ei wlad. Bu’n aelod o garfan yr Ariannin yng Nghwpan y Byd 1999 a 2003 ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i chwarae y flwyddyn honno oherwydd anaf ac yntau’n 29 oed.

Ers hynny bu’n canolbwyntio ar hyfforddi a chafodd ei wneud yn hyfforddwr y tîm cenedlaethol yn 2008.

Yr Hanes

Cyflwynwyd y gêm i’r wlad gan fewnfudwyr o Brydain yn 1873. Erbyn 1899 yr oedd pedwar clwb o’r brifddinas, Buenos Aires, wedi uno i ffurfio Undeb Rygbi River Plate.

Yn 1927 aeth tîm Llewod Prydain yno ar daith a thair blynedd yn ddiweddarach ymwelodd tîm y Junior Springboks â’r wlad.

Yn 1952 cafodd yr Ariannin gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon, y tro cyntaf iddi beidio â cholli yn erbyn gwlad Ewropeaidd. O hynny mlaen dechreuodd gystadlu’n deg â rhai o brif wledydd rygbi’r byd a’u maeddu’n rheolaidd.

Eto ni chafodd ei gwneud yn aelod llawn o’r IRB tan 1987, pan gafodd wahoddiad i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno.

O 2012 ymlaen bydd yn dod yn rhan o Gystadleuaeth y Tair Gwlad, a gynhaliwyd gynt rhwng Seland Newydd, Awstralia a De Affrica, gan ei gwneud wedyn yn Gystadleuaeth y Pedair Gwlad!