Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n ystyried marwolaeth dyn yn nhref Wrecsam yn un amheus.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn ar Lord Street y dref am 6.30pm, 30 Awst, ar ôl i’r heddlu gael eu galw.

Aethpwyd a’r dyn canol oed i Ysbyty Maelor, Wrecsam, ond roedd eisoes wedi marw.

Maent wedi rhoi gwybod i grwner gogledd ddwyrain Cymru.