Robert O'Dowd
Mae Aelod Cynulliad Arfon wedi galw am dalu llai o gyflog i olynydd Prif Weithredwr cynllun Pontio ym Mhrifysgol Bangor, ar ôl i’r gŵr cynta’ i’w benodi i’r swydd adael yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Prifysgol Bangor yn talu cyflog “anferthol” i’r Prif Weithredwr Robert O’Dowd yn ystod ei gwta wyth mis yn y swydd, meddai Alun Ffred Jones.

Nid yw Prifysgol Bangor yn fodlon datgelu maint cyflog Prif Weithredwr Pontio – prosiect sydd wedi cael £15 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru, a £12.5 miliwn mewn grantiau o Ewrop.

“Glywes i ryw ffigwr [ar gyfer cyflog Prif Weithredwr Pontio] ryw dro, ac roedd o’n swnio’n afresymol o uchel i mi,” meddai Alun Ffred Jones o Blaid Cymru.

“Yn gyffredinol yn y bywyd cyhoeddus, rhaid bod newid… am fod yna gyflogau gwallgo’ yn cael eu talu yn y Ddinas, maen nhw’n meddwl bod angen talu bob Twm, Dic a Harri sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus yr un fath hefyd.

“Ac mae’r bwlch yn y sector gyhoeddus rhwng y rhai sydd ar y top a’r gwaelod yn tyfu a thyfu.

“Mae’n rhaid i ni stopio hyn’na yn y dyddiau sydd ohoni. Allwch chi ddim fforddio’i wneud o, a gallith Prifysgol ddim pledio tlodi, ac wedyn talu cyflogau diawledig o wirion.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 1 Medi