Fferm wynt
Mae ffermwr o Ben Llŷn sydd am i’w fferm fod yn hunangynhaliol o safbwynt ynni yn gobeithio cael caniatâd cynllunio’r wythnos nesaf i godi melin wynt 34 medr o uchder.

Os bydd cynghorwyr yn dilyn argymhelliad Rheolwr Cynllunio Cyngor Gwynedd (sy’n cyfeirio at y “nod cenedlaethol” o hybu datblygiadau tebyg) i ganiatáu’r datblygiad, y tyrbin ar fferm Crugeran ger Sarn Mellteyrn fydd yr ucha’ yn yr ardal.

Mewn llythyr at swyddogion a chynghorwyr mae’r ffermwr Richard Parry yn esbonio mai “ein prif symbyliaeth i ymgymryd â’r fenter yma yw cryfhau ein busnes a sicrhau dyfodol i’r pump ohonom sydd yn gweithio yma llawn amser a thair rhan amser.”

Ers 1956 mae rhannu helaeth o Ben Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Mae’r felin wynt arfaethedig ar gyrion un o’r ardaloedd hynny ac yn pery pryder i Swyddog yr ardal harddwch sy’n cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 1 Medi