Gwlân
Mae disgwyl i bris gwlân barhau i gynyddu’n sylweddol wrth i ffermwyr gadw llai o ddefaid.

Ar drothwy wythnos sydd wedi’i chlustnodi i dynnu sylw at ymgyrch farchnata ‘Campaign for Wool’, mae llywydd un o’r undebau amaeth yn talu teyrnged i’r Bwrdd Gwlân sydd, meddai, wedi dechrau gweithio’n fwy effeithlon yn ddiweddar drwy dorri costau cludiant wrth i bris petrol a diesel godi.

“Mae gwlân yn dibynnu ar farchnad y byd i gael pris ac fel mae hi wedi troi allan mae yna brinder am y gwlân,” meddai Emyr Jones, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru sy’n ffermio ger Y Bala.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae ffermwyr wedi bod yn gwario mwy am gneifio ac am gludo’r gwlân i gael ei raddio a’i storio na maen nhw wedi ei dderbyn amdano.

Ond ers 2008 mae pris kilo o wlân wedi codi o 33c i £1.02 sydd, yn ôl Emyr Jones, “yn anhygoel, doedd neb yn disgwyl iddo godi cystal.”

Ar hyn o bryd mae tua 70% o wlân o ffermydd Prydain yn cael ei allforio gyda China yn un o’r cwsmeriaid gorau a’r Iseldiroedd a Gwlad Belg yn ei ddefnyddio i wneud carpedi.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 1 Medi