Sophie Tyler
Cafodd merch ysgol ei pharlysu o’i chanol i lawr ar ôl i staff ysbyty adael anaesthetig sbinol i mewn yn rhy hir, cyfaddefwyd heddiw.

Ni fydd Sophie Tyler, sy’n 17 oed, o Risga, ger Casnewydd, yn cerdded eto ar ôl i’r epidwral gael ei adael i mewn am ddeuddydd yn olynol.

Mae arbenigwr ar gyfraith feddygol wedi galw ar benaethiaid un o ysbytai plant blaenllaw Prydain i ddysgu gwersi o’r camgymeriad trychinebus.

Mae’n bosib y bydd rhaid i’r ysbyty dalu i gynnal Sophie Tyler am weddill ei bywyd ar ôl cyfaddef eu bod nhw ar fai.

Dywedodd ei mam, Sue Tyler, fod bywyd ei merch wedi newid dros nos o ganlyniad i’r camgymeriad.

Y cefndir

Roedd Sophie Tyler yn 14 oed ar 27 Mai, 2008 pan dderbyniodd driniaeth yn Ysbyty Plant Birmingham i dynnu cerrig y bustl.

Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ond fe gafodd yr epidwral er mwyn rheoli’r poen ei adael yn ei le yn rhy hir gan achosi difrod parhaol i linyn y cefn.

Y diwrnod ar ôl y llawdriniaeth cwynodd fod ei choes dde yn ddideimlad, a’r diwrnod wedyn doedd hi ddim yn gallu symud ei thraed.

Er gwaethaf rhybuddion fod rhywbeth o’i le, methodd gweithwyr yr ysbyty ag atal yr epidwral nes 29 Mai.

Y diwrnod wedyn cafodd sgan MRI oedd yn dangos fod yr anaesthetig wedi treiddio i mewn i linyn y cefn ac wedi difrodi’r pilenni yno.

Merch ‘iach a bywiog’

Dywedodd Tim Deeming o gyfreithwyr Irwin Mitchell, fu’n cynrychioli Sophie Tyler, fod y teulu cyfan wedi “torri eu calonnau”.

“Ar wahân i ddioddef o gerrig y bustl roedd Sophie yn ferch iach a bywiog. Roedd hi a’i theulu wedi rhoi eu ffydd yn yr ysbyty ac wedi credu y byddai hi’n ôl ar ei thraed o fewn dyddiau,” meddai.

“Mae clywed yn 14 oed na fyddwch chi byth yn cerdded eto yn amhosib ei ddirnad ac i wneud pethau’n waeth iddyn nhw roedd y camgymeriad yn un hawdd ei osgoi.

“Mae gan Ysbyty Plant Birmingham enw da yn genedlaethol ac yn fyd-eang am safon eu gofal, ac felly mae’n hollbwysig fod yr ysbyty yn dysgu gwersi o beth ddigwyddodd i Sophie.

“Ni fydd unrhyw iawndal i Sophie yn gwneud yn iawn am beth ddigwyddodd, ac fe fydd angen gofal arbenigol arni am weddill ei bywyd.

“Mae cyfaddefiad yr Ymddiriedolaeth yn golygu y bydd gan Sophie y gefnogaeth ariannol er mwyn talu am yr offer arbenigol a’r gofal sydd ei angen arni.”

Dywedodd Sue Tyler fod “bywyd ei merch wedi newid yn llwyr o ganlyniad i’r hyn ddigwyddodd”.

“Mae ei bywyd wedi newid dros nos ac rydyn ni i gyd wedi ei chael hi’n anodd deall pam fod hyn wedi digwydd.

“Mae Sophie wedi bwrw ymlaen â’i arholiadau Lefel-A ac yn gobeithio mynd i brifysgol. Ond er mwyn gwneud hynny bydd rhaid iddi fod yn benderfynol a chael llawer o gefnogaeth gan eraill.”

Dywedodd Dr Vin Diwakar, prif swyddog meddygol Ysbyty Plant Birmingham, eu bod nhw’n ymddiheuro am beth ddigwyddodd.

Ychwanegodd eu bod nhw wedi cyflwyno cyfres o newidiadau er mwyn sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd eto.