Fe all cwrs rasio ceffylau Ffos Las, trac cyntaf Cymru ers 80 mlynedd, gael ei gau i lawr os yw’n colli hanner ei raglen rasus ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd cadeirydd y cwrs, Dai Walters, y byddai’n cau’r cwrs i lawr os fydd Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain (BHA) yn bwrw ymlaen gyda’u cynlluniau i gwtogi nifer y cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal yno o 29 i 16 yn 2012.

Mae awdurdodau’r gamp yn bygwth lleihau’r nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws 60 o draciau’r wlad y flwyddyn nesaf, ac fe all Ffos Las fod yn un o’r rheini sy’n profi’r toriadau caletaf.

Y trac hwn ger Llanelli yw’r diweddaraf i gael ei agor ym Mhrydain (ar Mehefin 2009), ac fe gafodd ei enwebu ar gyfer gwobr y cwrs newydd gorau gan Betview y llynedd.

Roedd disgwyl i’r trac gynnal 16 cyfarfod swyddogol BHA y flwyddyn nesaf, a 12 diwrnod ychwanegol sydd rhaid eu hennill trwy ocsiwn.

Ond mae cynlluniau’r BHA i gyfyngu’r nifer o gyfarfodydd blynyddol i 1,400, ac i beidio arwerthu cymaint o’r rhaglen, yn golygu y gallai Ffos Las golli oddeutu hanner ei dyddiau rasio.

Dywedodd Dai Walters y byddai’n sicr yn cau’r trac petai’n cael dim ond 16 o rasus y flwyddyn nesaf.

“Mae’n sefyllfa anodd iawn,” meddai Dai Walters, “Er bod Ffos Las yn golygu llawer iawn i mi, busnes yw e yn y pen draw, a fedra i ddim rhedeg busnes llwyddiannus os yw’n gwneud colled.

“Dwi ddim yn gwneud arian yn bersonol allan o’r busnes, ond dw i’n sicr ddim yn barod i wneud colled arno chwaith.”

Ychwanegodd, “Dwi ddim yn gofyn am arian, dwi just eisiau’r rasus. Allwn i dderbyn colli un neu ddau, ond dim dwsin. Byddai hynny’n hollol annheg.”

Petai’r cwrs cau, mi fyddai’n ergyd ysgytwol i dwristiaeth yng Nghymru ac i’r diwydiant rasio yn gyffredinol, yn ôl Dai walters.

Bydd rhaglen y flwyddyn ar gyfer 2012 yn cael ei gyhoeddi gan y BHA ar 30 Medi.