Jason Banfield
Mae teulu dyn fu farw ar ôl car disgyn allan o gefn fan ar yr A4054 ym Merthyr Tudful wedi talu teyrnged iddo.

Fe fu farw Jason Banfield, 38, ddydd Gwener ddiwethaf. Cafodd ei fagu yn ardaloedd Gurnos a Chalon Uchaf y dref.

Dywedodd ei bartner, Claire, ei fod yn “falch iawn o’i ferched Asia, 7 oed, ac Ebony, 3, ac fe fyddai yn helpu unrhyw un oedd angen cymorth heb feddwl dwywaith”.

“Roedd Jason yn gweithio’n galed ac roedd pawb oedd yn ei nabod yn ei garu. Roedd wrth ei fodd yn gwylio ei hoff dîm pêl-droed, Man U.

“Mae’r teulu cyfan wedi torri ei galon o ganlyniad i’r trasiedi. Mae yna dwll ym mywydau ei deulu a’i ffrindiau na fydd byth yn cael ei lenwi.

“Doedd gan neb air drwg i’w ddweud am Jason – roedd ganddo galon o aur. Roedd wedi gadael argraff barhaol ar unrhyw un yr oedd yn ei gyfarfod.”

Dywedodd ei fam a’i dad, Margaret and Alan, fod y “golau wedi mynd allan o’n bywydau”.

“Mae ei efail, Chris, wedi colli ei ffrind gorau a’i enaid hoff cytûn.”

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i alw am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad, ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.