Mae bron i un ymhob tri o yrwyr Cymru yn teithio llai wrth i bris tanwydd gynyddu, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod 32% o yrwyr Cymru yn defnyddio llai o danwydd.

Dim ond modurwyr yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi torri’n ôl ymhellach wedi cynnydd ym mhris petrol. Mae 34% o’r gyrwyr yno yn teithio llai o ganlyniad i brisiau uwch.

Ar draws y Deyrnas Unedig mae mwy na chwarter y gyrwyr yn dweud eu bod nhw’n torri’n ôl, yn ôl ymchwil AA Populus.

Yn Llundain a de ddwyrain Lloegr dim ond 26% a 25% oedd wedi torri’n ôl.

Mae 31% o fenywod wedi torri’n ôl ar faint y maen nhw’n ei wario yn yr orsaf betrol, o’i gymharu â 26% o ddynion.

Roedd 44% o weithwyr di-grefft, pobol sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor, a phensiynwyr wedi torri yn ôl.

Cafodd 15,860 o aelodau’r AA eu holi ar gyfer yr arolwg.

Prisiau uwch

Mae prisiau petrol ar draws y Deyrnas Unedig wedi codi o 115.62 am litr o betrol a 118.18 am litr o ddisel y llynedd i 134.37 a 138.57.

Disgynnodd prisiau ar ôl taro 137.43 am litr o betrol a 143.04 am ddisel ym mis Mai, sef y prisiau uchaf erioed.

Dywedodd yr AA bod% yn fwy o yrwyr yn torri i lawr ar ôl rhedeg allan o danwydd nac yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

“Mae ein hymchwil ni yn dangos i ba raddau y mae prisiau tanwydd yn effeithio ar yrwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig,” meddai llywydd yr AA, Edmund King.

“Yn 2008 roedd £30 yn prynu 25.1 litr o betrol. Erbyn hyn mae’n prynu 22.3 litr yn unig.

“Mae hynny’n golygu fod car yn gallu teithio 34.6 milltir yn llai ar gyfartaledd ar gwerth £30 o betrol.

“Mae’n llawer llai tebygol y bydd cwsmeriaid yn barod i yrru i’r siopau ar y penwythnos os ydyn nhw allan o betrol ar ôl teithio i’r gwaith yn ystod yr wythnos.

“Mae rhai gyrwyr yn rhoi eu bywydau nhw ac eraill yn y fantol drwy dorri i lawr ar ôl rhedeg allan o betrol.”