Trenau Arriva Cymru
Bydd oedi ar y rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd y bore ma ar ôl adroddiadau fod rhywun wedi ei daro gan drên ym Maerun.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw am 6.54am ar ôl i yrrwr trên weld corff dyn. Cafodd y gwasanaeth ambiwlans hefyd eu galw.

Mae gwasanaethau First Great Western, Trenau Arriva Cymru a CrossCountry wedi eu hatal rhwng y ddwy orsaf.

Mae bysys wedi eu trefnu er mwyn cludo teithwyr o un orsaf i’r llall, ac mae disgwyl y bydd y daith yn cymryd awr yn ychwanegol. Bydd trenau o Lundain yn atal yng Nghasnewydd.

Dywedodd First Great Western fod rhywun wedi ei daro gan drên, a dywedodd CrossCountry Trains fod disgwyl oedi nes 10.15am.

Maen nhw’n annog pobol i ffonio llinell ymholiadau National Rail am wybodaeth bellach.