Mae’r A550 yn Sir y Fflint wedi ei gau yn dilyn damwain ddifrifol.

Cafodd y ffordd ei gau yn y ddau gyfeiriad ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar rhwng A5118 Penymynydd a A5104 Penyffordd.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y ffordd ar gau o hyd a bod y gwasanaethau brys yno. Does dim amcangyfrif eto pryd y bydd y ffordd yn ailagor.

Aethpwyd a dau berson i Ysbyty Maelor Wrecsam yn dilyn y gwrthdrawiad tua 6.52am.