Agripina Gheorge
Mae dynes wedi cael ASBO a fydd yn ei gwahardd rhag cardota yng nghanol Caerdydd am dair blynedd.

Cafodd y gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ei gyflwyno gan Lys Ynadon Caerdydd er mwyn amddiffyn y cyhoedd rhag Agripina Gheorge, sy’n 74 oed.

Roedd hi’n aml yn dweud fod yr arian yn mynd tuag at brynu cewynnau a llaeth i’w babanod, meddai’r heddlu.

Mae’r ASBO yn ei gwahardd hi rhag cardota unrhyw le o fewn Dinas a Sir Caerdydd a hefyd rhag mynd i mewn i ganol y ddinas rhwng 8am a 8pm.

Roedd Heddlu De Cymru wedi gwneud cais am y gorchymyn ac fe allai hi gael ei charcharu am bum mlynedd neu ei dirywio os ydyw hi’n tynnu’n groes.

“Rydyn ni’n benderfynol fod pobol sy’n ymweld gyda, byw a gweithio yng nghanol y ddinas yn gallu gwneud hynny heb i gardotwyr eu ffwdanu nhw,” meddai Sarsiant Geraint White.

“Dyma’r pedwerydd gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ydyn ni wedi cael gafael arno o fewn y misoedd diwethaf.”

Dywedodd yr heddlu fod aelodau o’r cyhoedd wedi cysylltu gyda nhw yn ddyddiol ynglŷn ag ymddygiad Agripina Gheorge.

Dywedodd yr heddlu y dylai’r cyhoedd gysylltu gyda nhw ar 101 os ydyn nhw’n credu fod ASBO yn cael ei dorri.