Yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau gan y Torïaid, fe fydd y gwariant y pen ar iechyd yng Nghymru’n llai na’r hyn fydd yn Lloegr erbyn y flwyddyn nesaf.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gwariant y pen wedi bod yn uwch yng Nghymru: yn 2009-10, roedd y £2,035 a gafodd ei wario am bob claf yng Nghymru yn £109 yn uwch na’r ffigur cyfatebol yn Lloegr.

Fodd bynnag, dywed y Ceidwadwyr y bydd y gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n gostwng £40 am bob claf y flwyddyn nesaf, tra bydd y gwario yn Lloegr yn cynyddu £63 am bob claf.

Dyma fydd y tro cyntaf mewn degawd i wariant ar iechyd yng Nghymru fod yn is na’r hyn yw yn Lloegr.

Ymchwil

Mae honiadau’r Ceidwadwyr yn seiliedig ar ymchwil gan sefydliad annibynnol, y King’s Fund, sy’n dangos y bydd Llywodraeth Lafur Cymru’n cyflwyno toriad o 8.3% mewn termau real ar wariant ar y Gwasanaeth Iechyd dros y tair blynedd nesaf.

Roedd iechyd yn un o’r pynciau mwyaf dadleuol yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, gyda’r Ceidwadwyr, yn wahanol i’r pleidiau eraill, yn addo gwarchod y gyllideb iechyd ar draul gwariant arall.

Wrth gollfarnu polisïau Llywodraeth Lafur Cymru, meddai Dr Daniel Poulter, Aelod Seneddol Canolbarth Suffolk a Gogledd Ipswich, ac aelod o’r Pwyllgor Dethol Seneddol ar Iechyd:

“Mae penderfyniad y Llywodraeth Glymblaid i warchod y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi galluogi meddygon a nyrsys i symud ymlaen gyda thriniaeth gyflymach, mwy o gyffuriau canser, a llai o farwolaethau o heintiadau mewn ysbytai.

“Mae hyn yn gyferbyniad eithafol â Gwasanaeth Iechyd Cymru sy’n cael ei redeg gan Lafur. Gyda mwy o bobl yn marw o heintiadau mewn ysbytai, a mwy o bobl yn aros yn hirach am driniaeth, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn symud yn ôl yng Nghymru.

“Lle bynnag mae Llafur yn cael rhedeg y Gwasanaeth Iechyd, maen nhw’n gwneud llanast ohoni.”