Cafodd pedwar o bobl eu hachub ar ôl i’w cwch hwylio gael eu dal mewn mwd gerllaw Bae Caerdydd heddiw.

Roedd y cwch 27 troedfedd, August Moon, wedi mynd i drafferthion ychydig cyn hanner dydd ar ôl gwyro oddi wrth y sianel fordwyol i’r bae, yn ôl Gwylwyr y Glannau Abertawe.

Aed â’r pedwar a oedd ar ei fwrdd mewn bad achub o Benarth, a llwyddwyd i ryddhau’r cwch yn ddiweddarach.

Dywedodd David Jones o Wylwyr y Glannau Abertawe fod angen i hwylwyr gymryd gofal yn yr ardal.

“Hoffwn atgoffa morwyr i fod yn ofalus wrth fordwyo’r porth i sianel y Wrach yng Nghaerdydd, gan fod y torlannau tywod a mwd yn newid yn rheolaidd,” meddai.

“Mae’r llestr hwn wedi mynd i anawsterau trwy wyro oddi ar y sianel fordwyol. Mae hyn yn aml wedi achosi i gychod gael eu dal ar dorlannau mwd neu dywod yn yr ardal.”