Prifysgol Aberystwyth
Fe fydd rhai o brif wyddonwyr y byd ym maes magu anifeiliaid fferm yn dod i gynhadledd amaethyddol yn Aberystwyth ym mis Medi.

Fe fyddan nhw a chynrychiolwyr o’r diwydiant amaeth a bwyd yn trafod dyfodol y sector da byw yn wyneb rhai o’r sialensiau sy’n wynebu’r ddaear.

Yn ôl y trefnwyr, fe all y trafodaethau ddylanwadu ar obeithion y sector am flynyddoedd i ddod ac ar ddyfodol miliynau o ffermwyr ledled y byd.

Mae’r gynhadledd, rhwng 6 a 9 Medi eleni, yn canolbwyntio ar anifeiliaid sy’n byw ar borfa a llystyfiant – boed y rheini’n wartheg yng Nghymru, malwod yn Nigeria, defaid ym Mongolia neu gwningod yn Sbaen.

IBERS – y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth – sy’n trefnu’r gynhadledd, Yr Wythfed Symposiwm Rhyngwladol ar Faeth i Anifeiliaid Llysfwyteuol, ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor.

Anrhydedd fawr

“Mae’n anrhydedd fawr i IBERS groesawu’r gynhadledd allweddol yma,” meddai Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell. “Mae’n arwydd hefyd o bwysigrwydd y gwaith ymchwil rhyngwladol sy’n cael ei wneud gennym ni a’n partneriaid ym Mhrifysgol Bangor.

“O wella cnydau a datblygu mathau newydd sy’n gallu gwrthsefyll amodau a thywydd o bob math i ddarganfod dulliau o wella defnydd anifeiliaid o’r cnydau hynny, mae IBERS yn arwain y ffordd wrth ddatrys rhai o broblemau mwyaf dwys y byd.”

Mae’r gynhadledd yn cynnwys wyth prif sesiwn, un gweithdy min nos a thaith wyddonol hanner diwrnod i weld peth o’r gwaith ymchwil allweddol sy’n digwydd yn yr ardal.

“Mae ffermio anifeiliaid ar groesffordd,” meddai’r Athro Nigel Scollan o IBERS, cadeirydd y tîm lleol sy’n trefnu’r gynhadledd. 

“Mae yna gystadleuaeth am dir oherwydd dulliau eraill o ddefnyddio tir, mae angen lleddfu newid hinsawdd ac addasu i’w effeithiau ac mae angen cwrdd â galw cymdeithas am fwyd saff a maethlon sy’n cael ei gynhyrchu’n rhad.

“Mae’r symposiwm hwn yn cynnig cyfle unigryw i wyddonwyr â rhai eraill sydd â diddordeb yn y maes i weithio gyda’i gilydd i siapio dyfodol y maes.”