Darlun teledu cylch cyfyng o'r dyn y mae'r heddlu'n awyddus i'w holi
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd wrthi’n chwilio am feiciwr sydd wedi bod yn dwyn, a cheisio dwyn, pethau gwerthfawr oddi ar ferched.

Fe ddigwyddodd y lladradau’n gynharach yr haf yma yn ardaloedd y Rhâth, Cathays a Canton o’r ddinas, ac mae’r heddlu bellach wedi rhyddhau llun o’r dyn y maen nhw’n chwilio amdano.

Roedd dyn sy’n ei ddisgrifio fel un o hil gymysg neu gyda chroen tywyll, tenau, yn ei 20au hwyr neu ei 30au, gydag acen dramor, wedi bod yn cipio bagiau llawn neu fwclis oddi ar merched wrth feicio heibio iddyn nhw ar strydoedd yr ardaloedd yma.

Ar rai adegau mae wedi bod yn gwisgo siaced â hwd, a sbectol haul.

  • 3am dydd Gwener, Mehefin 10 Cottrell Road, Cathays, dwyn ffôn symudol.
  • 5.40pm dydd Sadwrn, Mehefin 11 Gold Street, y Rhâth, ceisio dwyn mwclis
  • 5.45pm dydd Sadwrn, Mehefin 11 Piercefield Place, y Rhâth, ceisio dwyn mwclis.
  • 6.43pm dydd Sadwrn, Mehefin Cowbridge Road East, Canton, ceisio dwyn mwclis.
  • 5am dydd Sul, Mehefin 12 Hirwain Street, Cathays, dwyn bag llaw.
  • 12.30am dydd Llun, Mehefin 13 gerllaw cyffordd Clive Place a Croft Street, y Rhâth, ceisio dwyn bag llaw.

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â CID Cathays ar 029 2052 7267 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.