Robert O'Dowd
Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol Prifysgol Bangor wedi gadael ei swydd.

Cafodd Robert O’Dowd, sy’n ddi-Gymraeg, ei benodi’r llynedd ac roedd disgwyl i’r ganolfan agor yn 2013.

Roedd y ganolfan newydd ddiwylliannol £28 miliwn wedi ei feirniadu yn gynharach eleni am beidio â sicrhau fod digon o’r staff yno’n siarad Cymraeg.

Dywedodd Prifysgol Bangor ym mis Chwefror eleni eu bod nhw’n bwriadu ailfeddwl agwedd y ganolfan at yr iaith yn dilyn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith.

Wrth ymateb i’r newyddion heddiw dywedodd y brifysgol fod Robert O’Dowd wedi treulio “blwyddyn lwyddiannus yn arwain datblygiadau cynnar hanfodol Pontio”.

“Mae bellach wedi penderfynu gadael y brifysgol er mwyn parhau i ddatblygu ei sgiliau entrepreneuriaid a busnes mewn meysydd eraill,” medden nhw.

“Cyn cael ei benodi i Brifysgol Bangor, roedd Robert wedi sefydlu a chyfarwyddo Designs of the Time, rhaglen cynllunio £8.5 miliwn yng Nghernyw.

“Mae ei sgiliau wrth ddod a phrosiectau fel hyn i ffrwyth, yn dangos ei allu cyfathrebu gwych, a’i sgiliau busnes, sydd wedi cyfrannu at ei waith yn Pontio.

“Hoffai’r brifysgol ddiolch i  Robert O’Dowd am ei ymrwymiad i Pontio sydd wedi elwa yn fawr iawn o’i arweiniad yn ystod y cyfnod cyntaf allweddol hwn.”