Katherine Jenkins
Mae’r gantores glasurol, Katherine Jenkins, wedi galw ar ei chefnogwyr i beidio â chael eu “twyllo” i brynu ei halbwm diweddaraf.

Rhybuddiodd y gantores o Gastell-nedd, sy’n 31 oed, nad oes yna unrhyw beth newydd ar yr albwm sydd ar fin cael ei gyhoeddi gan ei hen label recordio.

Bydd yr albwm One Fine Day yn cael ei gyhoeddi’n hwyrach eleni ac yn cynnwys sawl un o’i chaneuon mwyaf poblogaidd.

“Mae Universal Records yn cyhoeddi albwm ARALL sy’n gasgliad o fy nghaneuon o’r enw One Fine Day,” meddai’r gangores  ar wefan Twitter.

“Dydw i ddim wedi recordio iddyn nhw ers 2008 a does yna ddim cerddoriaeth newydd, dim ond stwff sydd gennych chi yn barod. Dydw i ddim am i chi deimlo eich bod chi wedi cael eich twyllo.”

Cefndir

Gadawodd Katherine Jenkins y label yn 2008 er mwyn arwyddo cytundeb £5.8 miliwn â Warner Brothers.

Ers hynny mae Universal wedi cyhoeddi dau albwm sy’n cynnwys hen ganeuon.

Dywedodd y bydd albwm newydd gwreiddiol, o’r enw Daydream, allan cyn bo hir.