Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae un o gefnogwyr selocaf Wrecsam wedi dweud nad yw’n teimlo fod dewis ganddyn nhw ond bwrw ymlaen â chynlluniau i brynu’r clwb pêl-droed.

Cyhoeddwyd neithiwr fod Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi pleidleisio o blaid bwrw ymlaen â’u cynllun i brynu’r clwb pêl-droed.

Roedd Dai Charles ymysg y cannoedd a bleidleisiodd ‘Ie’ i’r cynllun, gan ddweud nad oes dim troi yn ôl erbyn hyn

” Dyma’r unig ffordd ymlaen i ni os ydyn ni am weld y clwb yn goroesi. Rhaid i ni fwrw ymlaen â’r cynllun,” meddai.

Ond ychwanegodd fod yn lawer iawn o waith i’w wneud o hyd cyn y bydd modd i’r ymddiriedolaeth gymryd yr awenau.

“Rhaid i’r gynghrair dderbyn y cynnig yn gyntaf. Ond dw i’n credu fod hynny wedi’i wneud yn answyddogol beth bynnag,” medd Dai Charles.

Cyflwr ariannol y clwb a’r ansicrwydd am gyllideb yr ymddiriedolaeth sy’n parhau i beri fwyaf o bryder i nifer o’r cefnogwyr, meddai.

“Dw i’n darllen yr adroddiadau ar y wefan ‘Red Passion’, a dwn i’m os ydw i’n darllen rhwng y llinellau, ond dw i’n amau fod ansicrwydd ariannol o hyd.”

Mae’r ymddiriedolaeth yn disgwyl gwneud colled o tua £500,000 yn eu blwyddyn gyntaf.

Ond mae Dai Charles yn credu y gallai fod yn agosach at dri chwarter miliwn, tra bod perchnogion presennol y clwb, Geoff Moss ac Ian Roberts, wedi dweud y gallai’r clwb golli miliwn o bunnoedd.

Mae’r ymddiriedolaeth eisoes wedi dweud y bydd rhaid cymryd ‘penderfyniadau caled’ er mwyn torri costau a chynyddu incwm y clwb.

“Os fydd rhaid iddynt gynyddu cost tocynnau’r gemau neu gynyddu prisiau’r tocynnau tymor, yna dyna sydd rhaid ei wneud. Does dim llawer o ddewis gennym ni,” meddai Dai Charles.

“Dydyn ni ddim yn cefnogi clwb Geoff Moss ac Ian Roberts bellach, rydym ni’n cefnogi ein hunain mewn ffordd. Mae’r baich wedi disgyn arnom ni.”

Er bod Dai Charles yn hyderus am y dyfodol, dywedodd fod nifer o gefnogwyr yn flin iawn ynglŷn â sut y cafodd y clwb ei redeg yn y gorffennol.

Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr

Dywedodd Dai Charles ei fod yn derbyn penderfyniad Prifysgol Glyndŵr i ail-frandio’r stadiwm.

“Does gen i ddim problem â galw’r clwb yn Stadiwm y Cae Ras Glyndŵr. Nhw sydd wedi talu £1.8 miliwn am y lle,” meddai, “Beggars can’t be choosers – fel y maen nhw’n ei ddweud!

“dwi ’n amau y bydd pobol yn parhau i alw’r stadiwm yn Stadiwm y Cae Ras.

“Mae ganddyn nhw gynlluniau i addasu’r stadiwm i’w defnydd eu hunain, ond mae’r coleg yn amlwg yn meddwl mai dyna sydd orau iddyn nhw.

“A chyn belled fod y clwb pêl-droed yn parhau yno, dwi ddim yn meindio bod yn denantiaid iddyn nhw.”

Er gwaetha’r holl broblemau a phryderon am ddyfodol y clwb oddi ar y cae, mae Dai Charles yn hapus iawn gyda chynnydd y tîm ar y cae.

“Dwi’n hapus iawn hyd yn hyn. Mae gobaith i ni cyn belled fod y bwrdd rheoli ddim yn gorfodi i Dean Saunders dorri yn ôl.

“Dw i’n credu fod rhaid i ni gymryd y ‘gambl’ y flwyddyn yma a gwneud y mwyaf o’n cyfle i ennill dyrchafiad.”