Mae un dyn gafodd ei weld yn neidio o glogwyn ar Ynys Môn wedi marw ac mae un arall ar goll.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu fod y ddau yn byw yn lleol.
Dywedodd gwylwyr y glannau fod y ddau ddyn wedi diflannu ar ôl neidio o glogwyn ym Mhorth Trecastell tua 8.15pm ddoe.
Achubwyd un o’r dynion o’r môr gan hofrennydd Sea King y Llu Awyr Brydeinig ond fe fu farw ar ôl cyrraedd Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae’r gwasanaethau brys bellach wedi ail ddechrau chwilio am y dyn arall ar ôl rhoi’r gorau iddi tua 1am.
Mae hofrennydd, criw’r bad achub a gwylwyr y glannau Rhosneigr yn cadw llygad ar hyd yr arfordir.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau eu bod nhw wedi ail ddechrau chwilio ar hyd yr arfordir y bore ma.
“Mae’r ardal yn boblogaidd iawn â thwristiaid yr adeg yma o’r flwyddyn,” meddai. “Mae yna greigiau, ogofau, traethau a chlogwyni.
“Roedd yn dywyll iawn wrth i ni chwilio neithiwr ac roedd rhaid i ni ddefnyddio fflerau a goleuadau pob-tywydd y bad achub er mwyn dangos yn ffordd.”