Mae yna gwymp wedi bod yn nifer y disgyblion TGAU sy’n astudio ieithoedd modern, gan gynnwys y Gymraeg, eleni.

Ond mae yna gynnydd mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sydd wedi astudio pynciau gwyddonol, yn ôl y canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw.

Bu cynnydd o 11.3% yn nifer y cofrestriadau Bioleg, cynnydd o 13.4% yn nifer y cofrestriadau Cemeg a chynnydd o 11.4% yn nifer y cofrestriadau Ffiseg.

Bu gostyngiad yng nghofrestriadau Cymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith, pob un ohonynt i lawr rhwng 2% a 3%.

Gostwng hefyd wnaeth nifer y cofrestriadau am yr ieithoedd tramor modern, i lawr 14.0% yn achos Ffrangeg ac i lawr 20.8% yn achos Almaeneg.

Bu gostyngiad o 3.1% yng nghofrestriadau Sbaeneg hefyd, sef yr un iaith y bu cynnydd yn ei chofrestriadau yn y blynyddoedd diwethaf.

Bwlch yn parhau i fodoli

Mae’r graddau a enillwyd yng Nghymru eleni’n dangos gwelliant bach o’i gymharu â’r llynedd.

Ond mae bwlch o hyd rhwng y graddau sy’n cael eu hennill yng Nghymru a’r rhai sy’n cael eu hennill ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.

Y canran yn ennill gradd A* oedd 6.6%, o’i gymharu â 6.1% y llynedd, gyda 19.5% yn ennill gradd A* neu A, cynnydd ar y 19.1% enillodd y graddau hynny yn 2010.

Canran y disgyblion yn ennill graddau A* – C oedd 66.5% yn 2011, o’i gymharu â 66.4% y llynedd ac roedd canran cronnus y disgyblion yn ennill graddau A* – G, yn 98.7% yn 2011, union yr un peth â’r flwyddyn flaenorol.

Yn y Deyrnas Unedig, enillodd canran o 7.8% radd A*; enillodd 23.2% raddau A*-A ac enillodd 69.8% raddau A*-C.

Merched v Bechgyn

Mae merched yn dal i berfformio’n well yn y TGAU yng Nghymru na’r bechgyn, ac mae’r bwlch wedi ehangu rhywfaint eleni yn yr A*, A*-A ac A*-C.

Tra bod 7.8% o holl gofrestriadau’r merched wedi ennill A*, 22.5% wedi ennill A*-A a 70.3% wedi ennill graddau A*-C, y ffigurau cyfatebol yn achos y bechgyn oedd 5.3%, 16.3% a 62.5%.

‘Balch’

Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi llongyfarch disgyblion Cymru ar eu graddau heddiw.

“Rydw i’n falch fod disgyblion Cymru wedi cael graddau gwell eto eleni,” meddai.

“Rydw i hefyd wrth fy modd yn gweld ein bod ni wedi gwneud yn dda mewn gwyddoniaeth a mathemateg, wrth ystyried pwysigrwydd y pynciau rheini er mwyn cwrdd â gofynion diwydiannol Cymru.”