Clawr y cyfansoddiadau
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymddiheuro i enillydd y gystadleuaeth sgrifennu stori arswyd eleni, ar ôl iddyn nhw fethu â chynnwys diweddglo ei stori yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

O ganlyniad, fe fyddan nhw’n cynnwys y fersiwn lawn o stori fuddugol John Meurig Edwards o Aberhonddu yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau’r flwyddyn nesa’.

Roedd yr awdur wedi cysylltu â Golwg yn tynnu sylw at y gwall.

“Yn anffodus,” meddai yn ei lythyr, “mae tudalen o’r stori a anfonais i i’r gystadleuaeth heb gael ei chynnwys yn y gyfrol, a gan mai tudalen olaf y stori oedd honno, nid yw’r stori fel ag y mae yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.”

Camgymeriad llungopïo oedd wrth wraidd y camgymeriad, yn ôl trefnydd y Genedlaethol.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst