Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid prynu’r clwb.

Roedd mwy na 400 o gefnogwyr yn bresennol mewn cyfarfod neithiwr er mwyn cytuno i gynlluniau’r bwrdd.

Fe fydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn cau pen y mwdwl ar drafodaethau â’r perchnogion presennol, Ian Roberts a Geoff Moss.

Yna fe fyddwn nhw’n cyflwyno eu cynlluniau i’r awdurdodau pêl-droed o fewn yr wythnosau nesaf.

Roedd y bleidlais a gynhaliwyd yn gynharach yn yr wythnos yn unfrydol o blaid prynu’r clwb ac roedd cymeradwyaeth wrth i’r canlyniad gael ei gyhoeddi neithiwr.

Mae Prifysgol Glyndŵr y dref, lle y cynhaliwyd y cyfarfod, eisoes wedi prynu’r Cae Ras a chyfleusterau hyfforddi Parc Colliers y clwb.

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn rhagweld y bydd tua 3,000 o gefnogwyr yn mynd i bob un o gemau Wrecsam yn ystod y tymor.

A sail hynny maen nhw’n disgwyl y byddwn nhw’n gwneud colled o tua £500,000 yn y flwyddyn gyntaf.

Maen nhw eisoes wedi dweud y bydd angen cymryd “penderfyniadau anodd” os ydyn nhw’n llwyddo i brynu’r clwb.

Maen nhw eisoes wedi codi mwy na £100,000 mewn diwrnod er mwyn talu bond £250,000 i’r Gynhadledd Pêl-droed er mwyn cael cystadlu yn nhymor 2011-2012.

Er gwaethaf y trafferthion oddi ar y cae mae’r clwb wedi dechrau’r tymor yn dda a bellach yn gydradd gyntaf yn Uwch Gynghrair Blue Square.