Roedd degau o wirfoddolwyr yn protestio y tu allan i Ysbyty Gwynedd heddiw yn erbyn penderfyniad y WRVS i newid cyflenwyr brechdanau’r ysbyty.

Mae elusen WRVS sy’n cynnal y caffi wedi penderfynu archebu’r brechdanau gan gwmni Ginsters yn hytrach na chwmni lleol, Menai Deli, sydd wedi bod yn eu creu ers 20 mlynedd.

Dywedodd Enid Davies o Dalybont, ger Bangor, sy’n gwirfoddoli yn y caffi wrth Golwg360 fod rhai o’r gwirfoddolwyr eraill yn ystyried rhoi’r gorau iddi oherwydd hynny.

“Roedd y gefnogaeth yn wych a dweud y gwir,” meddai Enid Davies wrth Golwg360.

“Roedden ni’n sefyll ar ochr y ffordd fel rydach chi’n troi i mewn i’r ysbyty gan ddal posteri yn galw am arbed swyddi lleol a chefnogi busnesau lleol,” meddai’r wirfoddolwraig sydd wedi bod yn gweithio yn yr ysbyty ers 15 mlynedd.

“Pan oedd y ceir yn mynd heibio, roedd y bobl yn y ceir yn canu corn. Roedd eraill yn y brotest nad oedd yn gweithio i’r WRVS ond yno i gefnogi,” meddai.

“Roedden ni’n gweithio bore ma a phawb yn siarad ac yn cefnogi. Mae yna beryg y bydd llawer o’r gwirfoddolwyr yn rhoi’r gorau iddi. Roedd rhai yn teimlo mor gryf  â hynny,” meddai cyn dweud nad oedd yn siŵr a fyddai hi’n ymuno â nhw.

“Dydw i ddim yn gweithio i WRVS ond i’r gymuned. Dydw i ddim am adael yr ysbyty a’r gymuned i lawr.”

Bydd pwyllgor y gwirfoddolwyr yn cael ei gynnal brynhawn dydd Gwener i drafod y camau nesaf.

Ymateb WRVS

Eisoes, mae’r WRVS wedi dweud eu bod “deall bod y penderfyniad i symud i gyflenwr cenedlaethol yn mynd i gael goblygiadau negyddol ar lefel leol”.

“Fodd bynnag, mae’n benderfyniad sydd wedi ei ystyried yn ofalus, er mwyn cynnal y gwaith da a gwasanaethau a ddarperir gan WRVS yng Ngogledd Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Ginsters am nifer o flynyddoedd ac yn gwerthfawrogi ansawdd eu safonau hylendid uchel, amrywiaeth y cynnyrch, a’r pecynnu ecogyfeillgar.

“Bydd brand brechdanau WRVS yn helpu i gynhyrchu refeniw ychwanegol i ni drwy helpu i ledaenu’r gwaith hanfodol a wneir gan yr elusen drwy hyrwyddo gwirfoddoli a rhoddion ar bob un o becynnau’r brechdanau.

“Mae gan Ginsters hefyd gynlluniau i agor swyddfa werthiant bach yng Ngogledd Cymru gan ddarparu gwasanaeth lleol i’r ardal a chyflogi pobl leol.

“Newid cyflenwr yng ngogledd Cymru yw’r cam olaf yn y broses hon. Mae Ginsters eisoes wedi disodli pymtheg cyflenwr arall ar draws y Deyrnas Unedig.”

Menai Deli…

Dywedodd perchennog Menai Deli, Wyn Williams, wrth Golwg360 y bydd chwech o staff y cwmni’n colli’u gwaith o ganlyniad i benderfyniad WRVS.

Mae Menai Deli wedi bod yn paratoi brechdanau ar gyfer y caffi ers 20 mlynedd.

“Roedd yna gyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener ddiwethaf ac roedd y rheolwyr i gyd o Gaerdydd, Surrey a Chaeredin wedi dweud nad oedd dim troi nôl,” meddai cyn dweud mai Ysbyty Gwynedd yw cwsmer mwyaf Menai Deli.

“Roedd chwech o staff a dyna’r cwbl oedden nhw’n wneud bob bore o chwech y bore tan hanner awr wedi naw  – gweithio ar gynnyrch Ysbyty Gwynedd,” meddai cyn dweud bod y chwech bellach wedi cael gwybod eu bod nhw am golli eu swyddi.

“Fe fyddwn ni i lawr o 10 o staff i bedwar. Mae gennym ni siop ar y stryd fawr yn Borth a dim ond pedwar ar ôl.

“Yr unig beth fedrwn ni ei wneud am y ddau neu dri mis mesaf yw gweld sut mae pethau’n mynd a gweld os yw’r siop ar ei ben ei hun yn ddigon i’n cadw ni i fynd.

“Does gennym ni ddim siawns o gystadlu yn erbyn Ginsters. Hogiau bach ydan ni, maen nhw’n hogiau mawr iawn. Fedrwn ni fforddio.”

Mae’r deli wedi cael cefnogaeth “anhygoel” gan bobl leol, meddai. Eisoes, mae dros 1,400 wedi ymuno â’r grŵp Facebook Brechdanau Lleol i Ysbyty Gwynedd.

Bydd Menai Deli yn rhoi’r gorau i gyflenwi brechdanau i’r ysbyty ar 9 Medi.