Bydd cyfarfod cyffredinol ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam yn cael ei gynnal heno er mwyn trafod a ddylen nhw fwrw ymlaen â’u cynllun i brynu’r clwb pêl-droed.

Mae pleidlais gudd eisoes wedi cael ei chynnal ymysg holl aelodau’r ymddiriedolaeth, ac fe fydd y canlyniad yn cael ei ddatgelu yn ystod y cyfarfod heno, sy’n dechrau am 7.30pm.

Os caiff y penderfyniad ei gadarnhau heno, fe fydd yn gam mawr tuag at gau pen y mwdwl ar yr hanes hirfaith.

Fe fydd yn rhaid i’r gynghrair bêl-droed gadarnhau fod modd gwerthu’r clwb i’r cefnogwyr.

Rhybuddiodd yr ymddiriedolaeth ychydig dros wythnos yn ôl y bydd rhaid gwneud ‘penderfyniadau caled’ yn ymwneud â thorri costau a gwariant yn y dyfodol os yw’r clwb am oresgyn.

Gan dybio y bydd torf o 3,000 ym mhob gêm ar gyfartaledd yn ystod y tymor, mae’r ymddiriedolaeth yn rhagweld colledion o oddeutu £500,000 yn ystod y 12 mis nesaf.

Yn gynharach y mis yma, fe helpodd cefnogwyr Wrecsam godi dros £100,000 mewn diwrnod er mwyn i’r clwb fedru talu bond £250,000 a sicrhau eu bod yn cael cystadlu’r tymor hwn.

Fe brynodd Prifysgol Glyndŵr stadiwm y Cae Ras ynghyd a’r cyfleusterau ymarfer ym Mharc Colliers ar 3 Awst.

Crusaders

Bydd datganiad hefyd yn cael ei wneud y bore yma am ddyfodol y clwb rygbi’r gynghrair, y Crusaders.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar na fyddai’r clwb – sy’n rhannu’r Cae Ras gyda’r clwb pêl-droed – yn gwneud cais i ymestyn eu trwydded i aros yn y Super League.

Mae llawer o staff a chwaraewyr y tîm eisoes wedi ymadael.

Bydd cynrychiolwyr o glwb cefnogwyr y Crusaders, aelodau o ymgyrch ‘SavetheCru’, ynghyd a rheolwyr presennol y clwb oll yn gwneud datganiadau o’r Cae Ras am 11.30am.