Vincent Treng
Mae monitor glwcos gwaed yn cael ei ddatblygu ar gyfer cleifion diabetes yng Nghymru a fydd yn anfon negesdestun at staff gwasanaethau brys os yw claf mewn perygl o gael pwl o hypoglycemia.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe yn cydweithio â nifer o gwmnïau technoleg o Gymru gan ddod â’u harbenigedd mewn meysydd sy’n amrywio o nanoelectroneg i e-iechyd i ddatblygu’r synhwyrydd monitro glwcos gwaed diweddaraf.

Mae’r prosiect yn defnyddio technoleg diweddaraf Canolfan NanoIechyd a Chanolfan Arloesi Diwydiannau E-Iechyd Prifysgol Abertawe.

Y nod yw datblygu system monitro parhaus sy’n rhad, nad yw’n ymyrryd yn ormodol ar y claf, ac y mae modd ei chludo o un man i’r llall, gan ddefnyddio rhwydwaith symudol a synwyryddion newydd, medden nhw.

Dywedodd Dr Vincent Treng, arbenigwr nanoelectroneg o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe sy’n arwain y prosiect, y bydd y system rheoli glwcos yn y gwaed yn gwella’n sylweddol ansawdd bywyd cleifion diabetig a’u teuluoedd.

“Mae cleifion diabetig sydd â lefel isel o glwcos yn eu gwaed yn gallu mynd yn anymwybodol yn sgil hypoglycemia ac mae sawl achos wedi’i gofnodi lle mae cleifion, sydd naill ai’n byw neu’n gweithio ar eu pen eu hunain, wedi llewygu heb i eraill sylwi, rhywbeth sy’n gallu bod yn angheuol yn aml,” meddai.

“Mae system fonitro yn bwysig, felly, er mwyn rheoli lefel glwcos cleifion diabetig a thynnu sylw pan fydd claf yn anymwybodol.”

Tynnu sylw

Bydd y ddyfais, sy’n cael ei datblygu yng Nghymru, ac sy’n cynnwys nanodechnoleg a thechnoleg symudol ddi-wifr, yn trosglwyddo darlleniadau o’r synhwyrydd i ffonau symudol ac wedyn i’r Gwasnaeth Iechyd Gwladol a’r tîm clinigol sy’n gyfrifol am y claf.

Bydd hefyd yn tynnu sylw’r aelod agosaf o’r teulu neu staff meddygol os yw’r claf yn dioddef pwl o hypoglycemia.

Bydd y ddyfais yn mesur glwcos yn y gwaed yn barhaus, drwy ddefnyddio biosynhwyrydd nanowifrau, yn wahanol i’r mesurydd glwcos y mae cleifion yn gyfarwydd ag ef ar hyn o bryd, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gynnal prawf hyd at ddeg gwaith y dydd.

Bydd hefyd yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r teclynnau sydd ar y farchnad, gan nad yw’r broses yn ymyrryd yn ormodol â’r claf a’i bod yn ddi-boen. Cesglir y sampl gwaed drwy amryw ficro-nodwyddau – sy’n treiddio drwy lai nag 1mm o groen, gan osgoi creu poen.

Economi Cymru

“Gallai hyn greu manteision iechyd gwirioneddol i gleifion, arbedion i’r GIG a manteision amlwg i economi Cymru,” meddai Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

“Mae’n enghraifft arall o’r ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n dangos pwysigrwydd cydweithio rhwng ein prifysgolion a diwydiant i greu cynnyrch newydd.”

Caiff y prototeip ei ddatblygu dros y 30 mis nesaf a bydd y consortiwm diwydiant yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y farchnad yn hwylus ac yn gyflym.

Bydd modd addasu’r system fonitro ar gyfer cyflyrau cronig eraill, megis clefyd coronaidd y galon, strôc, canser ac asthma, medden nhw.

Cefnogir y prosiect ymchwil £470,000 gan raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.