Y mochyn cwta ar ôl torri ei wallt
Hanerodd mochyn cwta mewn maint ar ôl i elusen achub anifeiliaid dorri ei wallt.

Dywedodd yr elusen fod y mochyn cwta mor flewog pan ddaethon nhw o hyd iddo, fe allen nhw “fod wedi creu mochyn cwta arall o’r blew”.

Roedd y creadur blewog yn un o bedwar mochyn cwta a chwningen oedd wedi eu gadael mewn sied yng ngogledd Cymru.

Aethpwyd a nhw i Ganolfan Achub Anifeiliaid Capricorn ger yr Wyddgrug ar ôl i ddynes oedd newid symud i mewn i’r tŷ ddod o hyd iddyn nhw.

Dywedodd sylfaenydd y ganolfan Sheila Stewart ei bod hi “wedi derbyn galwad ffôn gan ddynes oedd yn meddwl ei bod hi wedi dod o hyd i bentwr o bren pwdr”.

“Mewn gwirionedd cwb cwningod oedd o ac roedd tair cwningen a dau fochyn cwta ynddo. Roedd pob un yn denau ond yn flewog iawn, ac yn frwnt ofnadwy.

“Fe gymeron ni nhw a’u golchi – roedd gymaint o flew ar un mochyn cwta fe allen ni fod wedi creu un arall.”

Mae’r ganolfan achub yn chwilio am gartref i’r moch cwta a’r cwningod. Dylai unrhyw un all helpu ffonio 01244 547938.